2022 Rhif 28 (Cy. 13)
Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 29(1) a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 20161.
Enwi a chychwyn1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym2.
Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
2
Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn y Ddeddf.
Datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontractau rhagnodedig3
1
Mae’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract sy’n gymwys i—
a
contract meddiannaeth diogel, wedi ei nodi yn Atodlen 1;
b
contract meddiannaeth safonol cyfnodol perthnasol, wedi ei nodi yn Atodlen 2;
c
contract safonol cyfnod penodol perthnasol, wedi ei nodi yn Atodlen 3.
2
At ddibenion y rheoliad hwn—
a
ystyr “contract meddiannaeth safonol cyfnodol perthnasol” yw contract meddiannaeth safonol cyfnodol—
i
nad yw’n gontract safonol â chymorth;
ii
nad yw’n gontract safonol rhagarweiniol;
iii
nad yw’n gontract safonol ymddygiad gwaharddedig;
iv
nad yw’n gontract safonol cyfnodol sydd yn bodoli ar ddiwedd contract cyfnod penodol yn unol ag adran 184(2) (diwedd y cyfnod penodol) o’r Ddeddf;
v
nad yw’n gontract safonol cyfnodol sydd o fewn Atodlen 8A3 (contractau safonol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis o dan adran 173 neu o dan gymal terfynu’r landlord) neu Atodlen 94 (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175 a 196 (pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord) yn gymwys iddynt) i’r Ddeddf;
b
ystyr “contract safonol cyfnod penodol perthnasol” yw contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd—
i
nad yw’n ymgorffori unrhyw ddarpariaethau yn ymwneud â chymal terfynu’r landlord o dan adran 1945 (cymal terfynu’r landlord) o’r Ddeddf,
ii
nad yw’n ymgorffori unrhyw ddarpariaethau yn ymwneud â chymal terfynu deiliad contract o dan adran 189 (cymal terfynu deiliad contract) o’r Ddeddf, a
iii
nad yw o fewn Atodlen 9B6 (contractau safonol cyfnod penodol y gellir eu terfynu drwy roi hysbysiad o dan adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol)) i’r Ddeddf.
ATODLEN 1
ATODLEN 2
ATODLEN 3
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)