NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”) yn sefydlu dau fath o gontract meddiannaeth, sef contract diogel a chontract safonol. Gall contract safonol fod naill ai’n gontract cyfnodol neu’n gontract cyfnod penodol.

Mae’r Ddeddf hefyd yn sefydlu nifer o wahanol fathau o gontractau safonol y gellir eu defnyddio mewn amgylchiadau penodol, gan gynnwys contractau safonol rhagarweiniol, contractau safonol ymddygiad gwaharddedig a chontractau safonol â chymorth.

Mae adran 29(1) o’r Ddeddf (datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ragnodi datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontractau ar gyfer contractau meddiannaeth o unrhyw fath neu ddisgrifiad sy’n briodol yn eu barn hwy.

Mae datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract yn ddatganiad ysgrifenedig sy’n ymgorffori’r holl ddarpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i’r contract hwnnw, heb eu haddasu (gweler adran 29(2) o’r Ddeddf).

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn, a’r Atodlenni iddynt, yn rhagnodi datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontractau ar gyfer contractau diogel, contractau safonol cyfnodol a chontractau safonol cyfnod penodol.

Mae rheoliad 3(1)(a) ac Atodlen 1 yn rhagnodi’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract sy’n gymwys i gontractau meddiannaeth diogel.

Mae rheoliad 3(1)(b) ac Atodlen 2 yn rhagnodi’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract sy’n gymwys i gontractau meddiannaeth safonol cyfnodol nad ydynt—

(a)yn gontractau safonol â chymorth,

(b)yn gontractau safonol rhagarweiniol,

(c)yn gontractau safonol ymddygiad gwaharddedig,

(d)yn gontractau safonol cyfnodol sydd wedi codi ar ddiwedd contract cyfnod penodol yn unol ag adran 184(2) (diwedd y cyfnod penodol) o’r Ddeddf, nac

(e)yn gontractau safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8A (contractau safonol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis o dan adran 173 (hysbysiad y landlord) neu o dan gymal terfynu’r landlord) neu Atodlen 9 (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175 a 196 o’r Ddeddf (pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord) yn gymwys iddynt) i’r Ddeddf.

Mae rheoliad 3(1)(c) ac Atodlen 3 yn rhagnodi’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd (gweler adran 90 (contractau safonol cyfnod penodol: canfod hyd y cyfnod) o’r Ddeddf)—

(a)nad ydynt yn ymgorffori cymal terfynu’r landlord o dan adran 194 (cymal terfynu’r landlord) o’r Ddeddf,

(b)nad ydynt yn ymgorffori cymal terfynu deiliad contract o dan adran 189 (cymal terfynu deiliad contract) o’r Ddeddf, ac

(c)nad ydynt o fewn Atodlen 9B (contractau safonol cyfnod penodol y gellir eu terfynu drwy roi hysbysiad o dan adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol)) i’r Ddeddf.

Mae’n ofynnol i landlord ddarparu datganiad ysgrifenedig o gontract i ddeiliad y contract (gweler adran 31(1) (datganiad ysgrifenedig) o’r Ddeddf) ond nid yw’n ofynnol iddo ddefnyddio datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract. Fodd bynnag, rhaid i’r datganiad ysgrifenedig o gontract a ddefnyddir gydymffurfio â darpariaethau’r Ddeddf (gweler adrannau 31 i 33).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.