RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022.

2

Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r rheoliad a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 25 Mawrth 2022.

3

Daw rheoliad 3(8) (adroddiadau blynyddol gan bwyllgorau safonau) i rym ar 6 Mai 2022.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;

  • ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 19722;

  • ystyr “Deddf 1980” (“the 1980 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 19803;

  • ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 19894;

  • ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 20005;

  • ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 20036;

  • ystyr “y Rheoliadau sefydlu” (“the establishment Regulations”) yw—

    1. a

      Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 20217,

    2. b

      Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 20218,

    3. c

      Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 20219, a

    4. d

      Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 202110.