- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
40.—(1) Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3)(d) (cychwyn darpariaethau penodol) hepgorer “11,”.
(3) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)yn y diffiniad o “aelod Bannau Brycheiniog”, yn lle “reoliad 8” rhodder “reoliad 8(1)”;
(b)hepgorer y diffiniad o “Awdurdod Parc Cenedlaethol”;
(c)yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “aelod dirprwyol” (“substitute member”) yw person a benodir o dan reoliad 7(2) neu 8(3);”;
“ystyr “Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog” (“the Brecon Beacons National Park Authority”) yw’r awdurdod a sefydlwyd ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwnnw gan Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 (O.S. 1995/2803);”.
(4) Yn rheoliad 8(2B)(a), ar ôl “cytuno” mewnosoder “yn unfrydol”.
(5) Yn rheoliad 9(2)(b), ar ôl “eraill” mewnosoder “sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad”.
(6) Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—
9A.—(1) Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gyfethol yn aelod o CBC y Canolbarth os yw’r person—
(a)yn dal swydd daledig neu gyflogaeth y gwneir neu y cadarnheir penodiad neu etholiad iddi, neu y caniateir gwneud neu gadarnhau penodiad neu etholiad iddi, gan—
(i)CBC y Canolbarth;
(ii)is-bwyllgor i CBC y Canolbarth;
(iii)deiliad swydd daledig neu gyflogaeth o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (i) neu (ii), neu
(b)wedi ei anghymhwyso o dan adran 80B o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 rhag bod yn aelod o—
(i)cyngor cyfansoddol;
(ii)Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (anghymhwysiad yn rhinwedd dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol).”
(7) Ym mharagraff 5(a) o’r Atodlen, yn lle paragraff (i) rhodder—
“(i)rheoliad 8(2B);
(ia)rheoliad 17, neu”.
(8) Ar ôl paragraff 7(3) o’r Atodlen, mewnosoder—
“(3A) Caiff gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gynnwys darpariaeth i aelod cyngor neu aelod Bannau Brycheiniog o CBC y Canolbarth bleidleisio drwy ddirprwy.”
41.—(1) Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)yn y diffiniad o “aelod Bannau Brycheiniog”, yn lle “reoliad 8” rhodder “reoliad 8(1)”;
(b)hepgorer y diffiniad o “Awdurdod Parc Cenedlaethol”;
(c)yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “aelod dirprwyol” (“substitute member”) yw person a benodir o dan reoliad 7(2) neu 8(3);”;
“ystyr “Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog” (“the Brecon Beacons National Park Authority”) yw’r awdurdod a sefydlwyd ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwnnw gan Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 (O.S. 1995/2803);”.
(3) Yn rheoliad 8(2B)(a), ar ôl “cytuno” mewnosoder “yn unfrydol”.
(4) Yn rheoliad 9(2)(b), ar ôl “eraill” mewnosoder “sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad”.
(5) Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—
9A.—(1) Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gyfethol yn aelod o CBC y De-ddwyrain os yw’r person—
(a)yn dal swydd daledig neu gyflogaeth y gwneir neu y cadarnheir penodiad neu etholiad iddi, neu y caniateir gwneud neu gadarnhau penodiad neu etholiad iddi, gan—
(i)CBC y De-ddwyrain;
(ii)is-bwyllgor i CBC y De-ddwyrain;
(iii)deiliad swydd daledig neu gyflogaeth o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (i) neu (ii), neu
(b)wedi ei anghymhwyso o dan adran 80B o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 rhag bod yn aelod o—
(i)cyngor cyfansoddol;
(ii)Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (anghymhwysiad yn rhinwedd dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol).”
(6) Ym mharagraff 5(a) o’r Atodlen, yn lle paragraff (i) rhodder—
“(i)rheoliad 8(2B);
(ia)rheoliad 17, neu”.
(7) Ar ôl paragraff 7(3) o’r Atodlen, mewnosoder—
“(3A) Caiff gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gynnwys darpariaeth i aelod cyngor neu aelod Bannau Brycheiniog o CBC y De-ddwyrain bleidleisio drwy ddirprwy.”
42.—(1) Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd (Cymru) 2021(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3)(d) (cychwyn darpariaethau penodol) hepgorer “11”.
(3) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)hepgorer y diffiniad o “Awdurdod Parc Cenedlaethol”;
(b)yn y diffiniad o “aelod Eryri”, yn lle “reoliad 8” rhodder “reoliad 8(1)”;
(c)yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “aelod dirprwyol” (“substitute member”) yw person a benodir o dan reoliad 7(2) neu 8(3);”;
“ystyr “Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri” (“the Snowdonia National Park Authority”) yw’r awdurdod a sefydlwyd ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwnnw gan Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 (O.S. 1995/2803);”.
(4) Yn rheoliad 8(2B)(a), ar ôl “cytuno” mewnosoder “yn unfrydol”.
(5) Yn rheoliad 9(2)(b), ar ôl “eraill” mewnosoder “sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad”.
(6) Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—
9A.—(1) Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gyfethol yn aelod o CBC y Gogledd os yw’r person—
(a)yn dal swydd daledig neu gyflogaeth y gwneir neu y cadarnheir penodiad neu etholiad iddi, neu y caniateir gwneud neu gadarnhau penodiad neu etholiad iddi, gan—
(i)CBC y Gogledd;
(ii)is-bwyllgor i CBC y Gogledd;
(iii)deiliad swydd daledig neu gyflogaeth o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (i) neu (ii), neu
(b)wedi ei anghymhwyso o dan adran 80B o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 rhag bod yn aelod o—
(i)cyngor cyfansoddol;
(ii)Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (anghymhwysiad yn rhinwedd dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol).”
(7) Ym mharagraff 5(a) o’r Atodlen, yn lle paragraff (i) rhodder—
“(i)rheoliad 8(2B);
(ia)rheoliad 17, neu”.
(8) Ar ôl paragraff 7(3) o’r Atodlen, mewnosoder—
“(3A) Caiff gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gynnwys darpariaeth i aelod cyngor neu aelod Eryri o CBC y Gogledd bleidleisio drwy ddirprwy.”
43.—(1) Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3)(d) (cychwyn darpariaethau penodol) hepgorer “11”.
(3) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)yn y diffiniad o “aelod Bannau Brycheiniog”, yn lle “reoliad 8” rhodder “reoliad 8(1)”;
(b)hepgorer y diffiniad o “Awdurdod Parc Cenedlaethol”;
(c)yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “aelod dirprwyol” (“substitute member”) yw person a benodir o dan reoliad 7(2) neu 8(4);”;
“ystyr “Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro” (“the Pembrokeshire Coast National Park Authority”) yw’r awdurdod a sefydlwyd ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwnnw gan Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 (O.S. 1995/2803);”;
“ystyr “Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog” (“the Brecon Beacons National Park Authority”) yw’r awdurdod a sefydlwyd ar gyfer y Parc Cenedlaethol hwnnw gan Orchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 (O.S. 1995/2803);”.
(4) Yn rheoliad 8(3B)(a), ar ôl “cytuno” mewnosoder “yn unfrydol”.
(5) Yn rheoliad 9(2)(b), ar ôl “eraill” mewnosoder “sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad”.
(6) Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—
9A.—(1) Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gyfethol yn aelod o CBC y De-orllewin os yw’r person—
(a)yn dal swydd daledig neu gyflogaeth y gwneir neu y cadarnheir penodiad neu etholiad iddi, neu y caniateir gwneud neu gadarnhau penodiad neu etholiad iddi, gan—
(i)CBC y De-orllewin;
(ii)is-bwyllgor i CBC y De-orllewin;
(iii)deiliad swydd daledig neu gyflogaeth o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (i) neu (ii), neu
(b)wedi ei anghymhwyso o dan adran 80B o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 rhag bod yn aelod o—
(i)cyngor cyfansoddol;
(ii)Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;
(iii)Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (anghymhwysiad yn rhinwedd dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol).”
(7) Ym mharagraff 5(a) o’r Atodlen, yn lle paragraff (i) rhodder—
“(i)rheoliad 8(3B);
(ia)rheoliad 17, neu”.
(8) Ar ôl paragraff 7(3) o’r Atodlen, mewnosoder—
“(3A) Caiff gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gynnwys darpariaeth i aelod cyngor, aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro o CBC y De-orllewin bleidleisio drwy ddirprwy.”
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: