Search Legislation

Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Cyflwyno hysbysiadau gan gyd-bwyllgor corfforedig

31.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo deddfiad yn ei gwneud yn ofynnol (ym mha dermau bynnag) i gyd-bwyllgor corfforedig—

(a)hysbysu person am rywbeth, neu

(b)rhoi hysbysiad neu ddogfen arall i berson (gan gynnwys copi o ddogfen neu ddogfen ddiwygiedig).

(2Caniateir rhoi’r hysbysiad neu’r ddogfen i’r person dan sylw—

(a)drwy ei ddanfon neu ei danfon â llaw i’r person;

(b)drwy ei adael neu ei gadael ym mhriod gyfeiriad y person;

(c)drwy ei anfon neu ei hanfon i briod gyfeiriad y person drwy’r post;

(d)drwy ei anfon neu ei hanfon yn electronig at y person.

(3At ddibenion paragraff (2), priod gyfeiriad person yw—

(a)yn achos corff corfforedig, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(b)yn achos partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;

(c)yn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys olaf y person.

(4Os yw person wedi pennu cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig heblaw priod gyfeiriad y person o fewn ystyr paragraff (3) fel cyfeiriad y ceir danfon hysbysiadau neu ddogfennau iddo, mae’r cyfeiriad a bennwyd hefyd i’w drin fel priod gyfeiriad y person at ddibenion paragraff (2).

(5Mae hysbysiad neu ddogfen i’w drin neu i’w thrin fel pe bai wedi ei ddanfon neu wedi ei danfon â llaw o dan baragraff (2)(a)—

(a)yn achos corff corfforedig, os yw’n cael ei ddanfon neu ei danfon â llaw i ysgrifennydd neu glerc y corff;

(b)yn achos partneriaeth, os yw’n cael ei ddanfon neu ei danfon â llaw i bartner neu berson sydd â rheolaeth dros fusnes y bartneriaeth neu sy’n rheoli busnes y bartneriaeth.

(6Os nad yw cyd-bwyllgor corfforedig yn gallu canfod enw neu gyfeiriad unrhyw berchennog, unrhyw lesddeiliad neu unrhyw feddiannydd tir y mae hysbysiad neu ddogfen i’w roi neu ei rhoi iddo yn rhinwedd gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), caniateir rhoi’r hysbysiad neu’r ddogfen—

(a)drwy ei ddanfon neu ei danfon â llaw i berson sydd, neu yr ymddengys ei fod, yn preswylio ar y tir neu’n cael ei gyflogi arno, neu

(b)drwy ei adael neu ei gadael wedi ei osod neu wedi ei gosod yn weladwy ar adeilad neu wrthrych ar y tir.

(7Pan fo’r gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) wedi ei gynnwys mewn deddfiad nad yw’n ddeddfiad DDC—

(a)mae hysbysiad neu ddogfen wedi ei anfon neu wedi ei hanfon yn electronig at berson—

(i)os yw cyfathrebiad electronig ar ffurf, neu sy’n cynnwys, yr hysbysiad neu’r ddogfen, neu y mae’r hysbysiad neu’r ddogfen wedi ei atodi neu wedi ei hatodi iddo, wedi ei gyfeirio’n briodol ac wedi ei anfon at y person, a

(ii)os yw wedi ei anfon neu wedi ei hanfon ar ffurf electronig y gellir ei chyrchu a’i chadw gan y person;

(b)bernir bod hysbysiad neu ddogfen a roddir drwy ei anfon neu ei hanfon yn electronig wedi ei roi neu wedi ei rhoi, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ar y diwrnod yr anfonir y cyfathrebiad electronig;

(c)gweler adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(1) (cyfeiriadau at gyflwyno drwy’r post), neu adran 26 o Ddeddf Dehongli 1889 (ystyr cyflwyno drwy’r post), am ddarpariaeth ynghylch pryd y bernir bod dogfen a anfonir drwy’r post wedi ei rhoi i berson.

(8Pan fo’r gofyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) wedi ei gynnwys mewn deddfiad DDC, gweler adrannau 13 (cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronig) a 14 (y diwrnod pan fernir bod dogfen wedi ei chyflwyno) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019(2) am ddarpariaeth ynghylch rhoi dogfennau drwy’r post neu yn electronig.

(9Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “deddfiad DDC” yw—

(i)Deddf gan Senedd Cymru, neu

(ii)is-offeryn Cymreig o fewn yr ystyr a roddir gan adran 3(2) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (deddfwriaeth y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi),

y mae Rhan 2 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn gymwys iddo;

(b)ystyr “deddfiad nad yw’n ddeddfiad DDC” yw deddfiad nad yw Rhan 2 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn gymwys iddo.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources