Darpariaeth drosiannol: dirymu gofynion ynysu
3. Pan fo’n ofynnol i berson (“P”) beidio ag ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, yn unol â rheoliad 6(2), 7(2) neu 8(2) o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn union cyn iddynt gael ei ddirymu gan y Rheoliadau hyn, mae’r gofyniad yn peidio â bod yn gymwys pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym.