2022 Rhif 412 (Cy. 101)
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 50(3)(a) a (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 20211 ac adran 22(6) a (7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20002.
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddi yn unol ag adran 174(4) a (5)(f) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 20213.
Enwi a chychwyn1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar 5Mai 2022.
Diwygio Deddf Llywodraeth Leol 19722
Yn adran 100G o Ddeddf Llywodraeth Leol 19724 (gwybodaeth ychwanegol a gyhoeddir gan brif gynghorau), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—
5
But, in relation to a principal council in Wales, the information open to inspection under subsection (4) must not include a member’s address included in the register maintained under subsection (1).
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 20013
Yn rheoliad 12 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 20015 (gwybodaeth ychwanegol a gyhoeddir gan awdurdodau lleol), ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
4
Ond, ni chaiff yr wybodaeth sy’n agored i’w harchwilio o dan baragraff (3) gynnwys cyfeiriad aelod sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr a gedwir o dan baragraff (1).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)