NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”).

Mae adran 100G(1) o Ddeddf 1972 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor (yng Nghymru, mae’r rhain yn cynnwys cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau Parciau Cenedlaethol a chyd-fyrddau neu gyd-bwyllgorau sy’n dod o fewn adran 100J(2) o Ddeddf 1972 ac sy’n cyflawni swyddogaethau dau neu ragor o brif gynghorau yng Nghymru) i gadw cofrestr sy’n nodi, ymhlith pethau eraill, enw a chyfeiriad pob aelod o’r cyngor, gan gynnwys aelodau pwyllgorau ac is-bwyllgorau. Mae adran 100G(4) o Ddeddf 1972 yn ei gwneud yn ofynnol bod y gofrestr honno yn agored i’r cyhoedd edrych arni yn swyddfeydd y cyngor.

Mae rheoliad 12(1) o Reoliadau 2001 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol sy’n gweithredu trefniadau gweithrediaeth) i gadw cofrestr sy’n nodi, ymhlith pethau eraill, enw a chyfeiriad pob aelod o’r weithrediaeth, a phob aelod o bob pwyllgor i weithrediaeth yr awdurdod hwnnw. Mae rheoliad 12(3) yn ei gwneud yn ofynnol bod y gofrestr honno yn agored i’r cyhoedd edrych arni ym mhrif swyddfa’r awdurdod.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf 1972 a Rheoliadau 2001 i ddarparu na chaiff cyfeiriadau aelodau a gynhwysir yn y cofrestrau fod yn agored i’r cyhoedd edrych arnynt yn swyddfeydd prif gynghorau neu ym mhrif swyddfeydd awdurdodau lleol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac fe’i cyhoeddwyd ar www.llyw.cymru .