Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022

RHAN 3LL+CYr isafswm cyflog amaethyddol

Cyfraddau tâl isafLL+C

12.—(1Yn ddarostyngedig i weithrediad adran 1 o Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998(1), rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â’u gwaith yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol.

(2Yr isafswm cyflog amaethyddol yw’r gyfradd isaf fesul awr a bennir yn y Tabl yn Atodlen 1 fel y gyfradd sy’n gymwys i bob gradd o weithiwr amaethyddol ac i brentisiaid.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 12 mewn grym ar 22.4.2022, gweler ergl. 1(2)

Cyfraddau tâl isaf am oramserLL+C

13.  Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â goramser a weithir yn ôl cyfradd nad yw’n llai nag 1.5 gwaith yr isafswm cyflog amaethyddol a bennir yn erthygl 12 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 1 iddo sy’n gymwys i’w radd neu i’w gategori.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Ergl. 13 mewn grym ar 22.4.2022, gweler ergl. 1(2)

Cyfraddau tâl isaf am waith allbwnLL+C

14.  Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â gwaith allbwn yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol a bennir yn erthygl 12 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 1 iddo sy’n gymwys i’w radd neu i’w gategori.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Ergl. 14 mewn grym ar 22.4.2022, gweler ergl. 1(2)

Diogelu tâlLL+C

15.  Rhaid i dâl gweithwyr amaethyddol a gyflogir cyn y dyddiad y mae’r Gorchymyn hwn yn dod i rym sy’n dioddef gostyngiad yn eu cyfradd isaf fesul awr o ganlyniad i’w cymathu i radd neu gategori is neu gyfradd tâl isaf is fel a bennir yn y Tabl yn Atodlen 1 gael ei rewi yn ôl eu cyfradd tâl ar y diwrnod cyn y daw’r Gorchymyn hwn i rym hyd nes y bydd y gyfradd isaf fesul awr a bennir yn y Tabl yn Atodlen 1 (fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd) sy’n gymwys i’w gradd yn cyrraedd neu’n mynd yn fwy na’u cyfradd tâl ar y dyddiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Ergl. 15 mewn grym ar 22.4.2022, gweler ergl. 1(2)

Lwfans gwrthbwyso lletyLL+C

16.—(1Pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu tŷ i weithiwr amaethyddol am y cyfan o’r wythnos honno, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £1.50 yr wythnos oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy ar gyfer yr wythnos honno.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu llety arall i weithiwr amaethyddol, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £4.82 y dydd oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy am bob diwrnod yn yr wythnos y darperir y llety arall i’r gweithiwr.

(3At ddibenion paragraffau (1) a (4), ystyr “tŷ” yw tŷ annedd cyfan neu lety hunangynhwysol (gan gynnwys unrhyw ardd o fewn cwrtil y tŷ annedd neu’r llety hunangynhwysol hwnnw) y mae’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol fyw ynddo yn rhinwedd contract gwasanaeth y gweithiwr amaethyddol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau mewn modd priodol neu well.

(4At ddibenion paragraff (2) ystyr “llety arall” yw unrhyw lety byw heblaw tŷ—

(a)sy’n addas i bobl fyw ynddo;

(b)sy’n ddiogel ac yn ddiddos;

(c)sy’n darparu gwely i’w ddefnyddio gan bob gweithiwr amaethyddol unigol yn unig; a

(d)sy’n darparu dŵr yfed glân, cyfleusterau glanweithdra addas a digonol a chyfleusterau ymolchi i weithwyr amaethyddol yn unol â rheoliadau 20 i 22 o Reoliadau Gweithleoedd (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992(2) fel pe bai’r llety’n weithle yr oedd rheoliadau 20 i 22 o’r Rheoliadau hynny’n gymwys iddo.

(5Dim ond pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi gweithio o leiaf 15 awr yn ystod yr wythnos honno y caniateir i’r didyniad ym mharagraff (2) gael ei wneud.

(6Rhaid i unrhyw amser yn ystod yr wythnos honno pan fo’r gweithiwr amaethyddol ar wyliau blynyddol neu absenoldeb oherwydd profedigaeth gyfrif tuag at y 15 awr hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Ergl. 16 mewn grym ar 22.4.2022, gweler ergl. 1(2)

Taliadau nad ydynt yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddolLL+C

17.  Nid yw’r lwfansau a’r taliadau a ganlyn yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol—

(a)lwfans cŵn o £8.53 y ci i’w dalu’n wythnosol pan fo’i gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i weithiwr amaethyddol gadw un neu ragor o gŵn;

(b)lwfans ar alwad o swm sy’n cyfateb i dair gwaith cyfradd fesul awr y gweithiwr amaethyddol yn ôl ei radd. Mae’r lwfans ar alwad yn daladwy mewn cysylltiad â phob cyfnod y mae’r gweithiwr amaethyddol ar alwad. Ni chaiff cyfnod trefniant ar alwad fod yn hwy na 24 awr;

(c)lwfans gwaith nos o £1.62 am bob awr o waith nos; a

(d)grant geni a mabwysiadu o £67.09 am bob plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Ergl. 17 mewn grym ar 22.4.2022, gweler ergl. 1(2)

Costau hyfforddiLL+C

18.—(1Pan fo gweithiwr amaethyddol yn mynd ar gwrs hyfforddi gyda chytundeb ei gyflogwr ymlaen llaw, rhaid i’r cyflogwr dalu—

(a)unrhyw ffioedd am y cwrs; a

(b)unrhyw gostau teithio a llety a ysgwyddir gan y gweithiwr amaethyddol wrth fynd ar y cwrs.

(2Bernir bod gweithiwr amaethyddol sydd wedi ei gyflogi’n ddi-dor ar Radd A gan yr un cyflogwr am ddim llai na 30 wythnos wedi cael cymeradwyaeth ei gyflogwr i ymgymryd â hyfforddiant gyda golwg ar sicrhau’r cymwysterau angenrheidiol y mae’n ofynnol i weithiwr Radd B feddu arnynt.

(3Y cyflogwr sydd i dalu am unrhyw hyfforddiant y mae gweithiwr amaethyddol yn ymgymryd ag ef yn unol â pharagraff (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Ergl. 18 mewn grym ar 22.4.2022, gweler ergl. 1(2)