Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202

1

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 3, yn lle “18 Ebrill 2022” rhodder “9 Mai 2022”.

3

Hepgorer Rhan 4, ac eithrio paragraff (1) o reoliad 15.

4

Yn y pennawd i reoliad 15, hepgorer “a phersonau cyfrifol”.

5

Yn rheoliad 25—

a

hepgorer paragraff (1);

b

ym mharagraff (3)—

i

hepgorer is-baragraff (a)(i);

ii

hepgorer is-baragraff (b).

6

Hepgorer rheoliad 26.

7

Yn rheoliad 42, hepgorer paragraffau (3) i (5).

8

Yn rheoliad 52(1), hepgorer “, (3) neu (4)”.

9

Yn rheoliad 57(1), hepgorer is-baragraffau (e) ac (f).

10

Hepgorer Atodlenni 8 a 9.