Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3, yn lle “18 Ebrill 2022” rhodder “9 Mai 2022”.

(3Hepgorer Rhan 4, ac eithrio paragraff (1) o reoliad 15.

(4Yn y pennawd i reoliad 15, hepgorer “a phersonau cyfrifol”.

(5Yn rheoliad 25—

(a)hepgorer paragraff (1);

(b)ym mharagraff (3)—

(i)hepgorer is-baragraff (a)(i);

(ii)hepgorer is-baragraff (b).

(6Hepgorer rheoliad 26.

(7Yn rheoliad 42, hepgorer paragraffau (3) i (5).

(8Yn rheoliad 52(1), hepgorer “, (3) neu (4)”.

(9Yn rheoliad 57(1), hepgorer is-baragraffau (e) ac (f).

(10Hepgorer Atodlenni 8 a 9.