Mae’r Offeryn Statudol hwn wedi ei argraffu i gywiro camgymeriadau yn O.S. 2021/1294 (Cy. 328) ac mae’n cael ei ddyroddi’n rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 49 (Cy. 18)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Cymhwystra ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Cymru) 2022

Gwnaed

17 Ionawr 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

19 Ionawr 2022

Yn dod i rym

11 Chwefror 2022

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymhwystra ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Cymru) 2022.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 11.2.2022, gweler rhl. 2

2.  Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 11 Chwefror 2022.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 11.2.2022, gweler rhl. 2

3.  Mae rheoliadau 4 i 6 yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 11.2.2022, gweler rhl. 2

Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014LL+C

4.  Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014(3) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 5 a 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 11.2.2022, gweler rhl. 2

5.  Yn rheoliad 3, yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir” ym mharagraff (a) o’r diffiniad hwnnw yn lle “paragraff 289B” rhodder “paragraffau 289B a 289D”.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 11.2.2022, gweler rhl. 2

6.  Yn Atodlen 1, yn lle paragraff 9B rhodder—

9B.(1) Person—

(a)sydd ar y dyddiad perthnasol—

(i)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig; neu

(ii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i);

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio; neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio arferol yn y diriogaeth y mae’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn y dyddiad perthnasol;

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac

(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).

(3) Pan fo person (“P”) yn dod o fewn is-baragraff (1)(a)(ii), rhaid i’r person y mae P yn aelod o’r teulu mewn perthynas ag ef hefyd fodloni gofynion is-baragraff (1)(b) a (d).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 11.2.2022, gweler rhl. 2

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018LL+C

7.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(4) wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 8.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 11.2.2022, gweler rhl. 2

8.  Yn eithriad 2 ym mhob un o reoliadau 44(1), 54, 62(2) a 69(2), ar ôl “6A(1),” mewnosoder “6BA,”.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 11.2.2022, gweler rhl. 2

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau 2014”) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”).

Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cywiro gwallau yn Rheoliadau 2014 ac yn gwneud darpariaeth bellach yn Rheoliadau 2018 ynghylch cymhwystra dinasyddion Gwyddelig penodol i gael cymorth i fyfyrwyr.

Ystyriwyd Cod Asesiad Effaith Rheoleiddiol Gweinidogion Cymru ar gyfer Is-ddeddfwriaeth mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22(1) ac adran 22(2)(a) gan Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 86(3)(a). Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(1)(a) ac adran 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Darparodd adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 fod y swyddogaethau yn adran 22(2)(a) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 2004 i’w harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru.