xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
12.—(1) Mae paragraff 19(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).LL+C
(2) Ym mharagraff (e)—
(a)ar ôl is-baragraff (ii) hepgorer “neu”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (iii) yn lle “;” rhodder “,”;
(c)ar ôl is-baragraff (iii) mewnosoder—
“neu
(iv)caniatâd a roddwyd o dan Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan(1);”.
(3) Ar ôl paragraff (k) hepgorer “neu”.
(4) Ar ddiwedd paragraff (l) yn lle “.” rhodder “;”.
(5) Ar ôl paragraff (l) mewnosoder—
“(m)yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo yn unol â’r rheolau y cyfeirir atynt ym mharagraff (e), pan fo’r caniatâd hwnnw wedi ei roi yn rhinwedd—
(i)y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid(2), neu
(ii)y cynllun blaenorol ar gyfer staff cyflogedig lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia)(3); neu
(n)yn berson ym Mhrydain Fawr nad yw’n dod o fewn paragraff (e)(iv) neu (m) a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 12 mewn grym ar 20.1.2022, gweler rhl. 1(2)
Cyhoeddwyd Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 18 Awst 2021 ac fe’i cyhoeddwyd ar: https://www.gov.uk/guidance/afghan-citizens-resettlement-scheme.
Cyhoeddwyd y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 29 Rhagfyr 2020 ac fe’i cyhoeddwyd ar: https://www.gov.uk/government/publications/afghan-relocations-and-assistance-policy/afghan-relocations-and-assistance-policy-information-and-guidance.
Gweler Rhan 7 o’r rheolau a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971 (p. 77); y rheolau perthnasol yw rheolau 276BA1 – 276BS2.