RHAN 2Dirymu, Datgymhwyso a Darpariaeth Drosiannol

Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013

5.—(1Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013(1) (“Gorchymyn 2013”) i fod yn gymwys yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol ym mharagraffau (2) i (5).

(2Mae’r darpariaethau trosiannol yn gymwys i ddisgyblion—

(a)ym mlwyddyn 2, blwyddyn 3, blwyddyn 4, blwyddyn 5 a blwyddyn 6 o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023,

(b)ym mlwyddyn 7 pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021, o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023,

(c)ym mlwyddyn 7 nad ydynt ar 1 Medi 2022, o fewn is-baragraff (b), o’r flwyddyn ysgol 2023 i 2024,

(d)ym mlwyddyn 8 o’r flwyddyn ysgol 2023 i 2024, ac

(e)ym mlwyddyn 9 o’r flwyddyn ysgol 2024 i 2025.

(3Yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2013—

(a)mae’r diffiniadau o “y PDCCC”, “y PDCCS” ac “y PRhC” i’w darllen fel pe bai’r geiriau “Cwricwlwm Cenedlaethol” wedi eu hepgor,

(b)mae’r diffiniadau a ganlyn i’w trin fel pe baent wedi eu hepgor—

(i)“y ddogfen Gymraeg”,

(ii)“rhaglen astudio Cymraeg”, a

(iii)“rhaglen astudio Cymraeg ail iaith”,

(c)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 2” rhodder—

ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 7 oed ynddi;,

(d)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 3” rhodder—

ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 8 oed ynddi;,

(e)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 4” rhodder—

ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 9 oed ynddi;,

(f)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 5” rhodder—

ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 10 oed ynddi;,

(g)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 6” rhodder—

ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 11 oed ynddi;,

(h)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 7” rhodder—

ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 12 oed ynddi;,

(i)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 8” rhodder—

ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 13 oed ynddi, a

(j)yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 9” rhodder—

ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 14 oed ynddi;.

(4Yn lle erthygl 3(1) rhodder—

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r erthygl hon yn gymwys i—

(a)disgybl ym mlynyddoedd 4 i 9; a

(b)disgybl ym mlynyddoedd 2 a 3 pan fo mwyafrif gwersi’r disgybl hwnnw, ym marn y pennaeth, yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg.

(5Yn lle erthygl 4(1) rhodder—

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r erthygl hon yn gymwys i ddisgybl ym mlynyddoedd 2 i 9 pan fo mwyafrif gwersi’r disgybl hwnnw, ym marn y pennaeth, yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

(6Caiff y Gorchmynion a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2024—

(a)Gorchymyn 2013; a

(b)Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) (Diwygio) 2018(2).