2022 Rhif 517 (Cy. 124)
Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022

Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 29(3) a (5)1, 408(1)2, 537(1), (4) a (7)3, 537A(1), (2) a (3)4 a 569(4)5 o Ddeddf Addysg 19966, a pharagraff 3 o Atodlen 17 iddi, ac yn adran 108(2)(b)(iii) a (3)(c)8, ac yn adran 210(7)9 o Ddeddf Addysg 200210, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996 wedi ymgynghori â’r personau hynny yr oedd yn ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn ddymunol ymgynghori â hwy.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022.

(2)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mai 2022.

(3)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Annotations:
Commencement Information

I1Rhl. 1 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)

Dehongli2.

Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 6 oed ynddi;

ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 7 oed ynddi;

ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 8 oed ynddi;

ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 9 oed ynddi;

ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 10 oed ynddi;

ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 11 oed ynddi;

ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 12 oed ynddi;

ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 13 oed ynddi;

ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 14 oed ynddi;

ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 5 oed ynddi;

ystyr “blwyddyn meithrin” (“nursery year”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 4 oed ynddi;

mae i “blwyddyn ysgol” yr ystyr a roddir i “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 202111;
mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 199612;

mae i “dosbarth” (“class”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 82(1) o Ddeddf 2021;

mae i “ysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special school” yn adran 337(2) o Ddeddf 199613.
Annotations:
Commencement Information

I2Rhl. 2 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2Dirymu, Datgymhwyso a Darpariaeth Drosiannol

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 20043.

Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 200414 wedi ei ddirymu.
Annotations:
Commencement Information

I3Rhl. 3 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 20054.

(1)

Nid yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 200515 (“Gorchymyn 2005”) yn gymwys i ddisgyblion mewn ysgolion arbennig o’r flwyddyn ysgol 2021 i 2022.

(2)

Caiff y Gorchmynion a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2024—

(a)

Gorchymyn 2005, a

(b)

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau i Drefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3) (Cymru) 201116.
Annotations:
Commencement Information

I4Rhl. 4 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)

Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 20135.

(1)

Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 201317 (“Gorchymyn 2013”) i fod yn gymwys yn ddarostyngedig i’r darpariaethau trosiannol ym mharagraffau (2) i (5).

(2)

Mae’r darpariaethau trosiannol yn gymwys i ddisgyblion—

(a)

ym mlwyddyn 2, blwyddyn 3, blwyddyn 4, blwyddyn 5 a blwyddyn 6 o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023,

(b)

ym mlwyddyn 7 pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021, o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023,

(c)

ym mlwyddyn 7 nad ydynt ar 1 Medi 2022, o fewn is-baragraff (b), o’r flwyddyn ysgol 2023 i 2024,

(d)

ym mlwyddyn 8 o’r flwyddyn ysgol 2023 i 2024, ac

(e)

ym mlwyddyn 9 o’r flwyddyn ysgol 2024 i 2025.

(3)

Yn erthygl 2(1) o Orchymyn 2013—

(a)

mae’r diffiniadau o “y PDCCC”, “y PDCCS” ac “y PRhC” i’w darllen fel pe bai’r geiriau “Cwricwlwm Cenedlaethol” wedi eu hepgor,

(b)

mae’r diffiniadau a ganlyn i’w trin fel pe baent wedi eu hepgor—

(i)

“y ddogfen Gymraeg”,

(ii)

“rhaglen astudio Cymraeg”, a

(iii)

“rhaglen astudio Cymraeg ail iaith”,

(c)

yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 2” rhodder—

“ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 7 oed ynddi;”,

(d)

yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 3” rhodder—

“ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 8 oed ynddi;”,

(e)

yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 4” rhodder—

“ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 9 oed ynddi;”,

(f)

yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 5” rhodder—

“ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 10 oed ynddi;”,

(g)

yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 6” rhodder—

“ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 11 oed ynddi;”,

(h)

yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 7” rhodder—

“ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 12 oed ynddi;”,

(i)

yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 8” rhodder—

“ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 13 oed ynddi”, a

(j)

yn lle’r diffiniad o “blwyddyn 9” rhodder—

“ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 14 oed ynddi;”.

(4)

Yn lle erthygl 3(1) rhodder—

“(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r erthygl hon yn gymwys i—

(a)

disgybl ym mlynyddoedd 4 i 9; a

(b)

disgybl ym mlynyddoedd 2 a 3 pan fo mwyafrif gwersi’r disgybl hwnnw, ym marn y pennaeth, yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg.”

(5)

Yn lle erthygl 4(1) rhodder—

“(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r erthygl hon yn gymwys i ddisgybl ym mlynyddoedd 2 i 9 pan fo mwyafrif gwersi’r disgybl hwnnw, ym marn y pennaeth, yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.”

(6)

Caiff y Gorchmynion a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2024—

(a)

Gorchymyn 2013; a

(b)

Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) (Diwygio) 201818.
Annotations:
Commencement Information

I5Rhl. 5 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 20146.

(1)

Nid yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 201419 (“Gorchymyn 2014”) yn gymwys o dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (2).

(2)

Nid yw Gorchymyn 2014 yn gymwys—

(a)

o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023 i blant a disgyblion—

(i)

yn y flwyddyn meithrin,

(ii)

yn y flwyddyn derbyn, a

(iii)

ym mlwyddyn 1, blwyddyn 2, blwyddyn 3, blwyddyn 4, blwyddyn 5 a blwyddyn 6,

(b)

o’r flwyddyn ysgol 2022 i 2023 i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021, ac

(c)

o’r flwyddyn ysgol 2023 i 2024 i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 a blwyddyn 8.

(3)

Caiff Gorchymyn 2014 ei ddirymu ar 1 Medi 2024.

Annotations:
Commencement Information

I6Rhl. 6 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cymedroli Trefniadau Asesu ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 20157.

Caiff Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cymedroli Trefniadau Asesu ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 201520 ei ddirymu ar 30 Mai 2022.
Annotations:
Commencement Information

I7Rhl. 7 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 20158.

(1)

Yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 201521 (“Gorchymyn 2015”) hepgorer Rhannau 3 a 4.

(2)

Caiff y Gorchmynion a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2022—

(a)

Gorchymyn 2015, a

(b)

Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) (Diwygio) 201622.
Annotations:
Commencement Information

I8Rhl. 8 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol

Diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 20119.

(1)

Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 201123 wedi eu diwygio fel y nodir ym mharagraffau (2) i (4).

(2)

Yn rheoliad 2 yn lle’r diffiniad o “asesiadau statudol” rhodder—

“ystyr “asesiadau statudol” (“statutory assessments”) yw’r trefniadau asesu a bennir—

(a)

yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 200524;

(b)

yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 201325;

(c)

yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 201426; a

(d)

yn Rhan 3 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 201527 ar gyfer y flwyddyn ysgol 2021 i 2022 yn unig;”.

(3)

Yn rheoliad 4A hepgorer paragraffau (a) a (b).

(4)

Yn yr Atodlen hepgorer paragraff 2 o Ran 1.

Annotations:
Commencement Information

I9Rhl. 9 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 201110.

(1)

Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 201128 wedi eu diwygio fel y nodir ym mharagraffau (2) i (3).

(2)

Yn rheoliad 2(1) yn lle’r diffiniad o “asesiadau statudol” rhodder—

“ystyr “asesiadau statudol” (“statutory assessments”) yw’r trefniadau asesu a bennir—

(a)

yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 200529;

(b)

yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 201330;

(c)

yng Ngorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 201431; a

(d)

yn Rhan 3 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 201532 ar gyfer y flwyddyn ysgol 2021 i 2022 yn unig;”.

(3)

Yn lle Atodlen 2 rhodder—

“ATODLEN 2Darparu Gwybodaeth i Gyrff Llywodraethu, Awdurdodau Lleol a Gweinidogion Cymru: Canlyniadau’r Cyfnod Sylfaen a’r Cyfnodau Allweddol

Rheoliadau 4, 5 a 6

1.

Yn ddarostyngedig i baragraff 3, mewn cysylltiad â phob disgybl cofrestredig yn y cyfnod sylfaen, cyfnod allweddol dau a chyfnod allweddol tri, canlyniadau asesiadau statudol y disgybl.

2.

Pan na fo rhai neu’r cyfan o’r canlyniadau a nodir ym mharagraff 1 ar gael—

(a)

a gafodd y disgybl ei esemptio rhag yr asesiadau statudol o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002; neu

(b)

a yw canlyniadau asesiadau statudol y disgybl heb fod ar gael am resymau ac eithrio esemptio’r disgybl o dan adran 113 neu 114 o Ddeddf 2002.

3.

At ddibenion rheoliadau 5 a 6, nid yw paragraff 1 yn cynnwys canlyniadau Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 201333.”
Annotations:
Commencement Information

I10Rhl. 10 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)

Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 201111.

Yn rheoliad 5 o Reoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 201134 hepgorer paragraff (2)(c).
Annotations:
Commencement Information

I11Rhl. 11 mewn grym ar 30.5.2022, gweler rhl. 1(2)

Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn sefydlu fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer disgyblion a phlant yng Nghymru (“y Cwricwlwm i Gymru”).

Daw’r Cwricwlwm i Gymru yn fandadol fel a ganlyn—

(a)

ar 1 Medi 2022 ar gyfer—

(i)

plant sy’n cael addysg feithrin a gyllidir,

(ii)

disgyblion yn eu blwyddyn derbyn,

(iii)

plant a disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6,

(b)

ar 1 Medi 2022 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 7 yn yr ysgolion hynny a’r lleoliadau eraill hynny pan fo cwricwlwm wedi ei fabwysiadu neu wedi ei ddarparu fel arall yn unol â Deddf 2021,

(c)

ar 1 Medi 2023 ar gyfer plant a disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8,

(d)

ar 1 Medi 2024 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 9,

(e)

ar 1 Medi 2025 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 10, ac

(f)

ar 1 Medi 2026 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 11.

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth yn barod am y cam cyntaf o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru i blant a disgyblion yng Nghymru ar 1 Medi 2022 er mwyn diwygio a dirymu nifer o Orchmynion a wnaed o dan adran 108 o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”). Mae’r Gorchmynion hynny yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â’r trefniadau asesu ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol presennol a nodir yn Rhan 7 o Ddeddf 2002.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn dirymu Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 2004 (“Gorchymyn 2004”) ar 30 Mai 2022. Bydd hyn yn golygu na fydd asesu o dan Orchymyn 2004 yn digwydd yn y flwyddyn ysgol 2021 i 2022. Mae Gorchymyn 2004 yn nodi’r trefniadau asesu ar gyfer blwyddyn olaf yr ail gyfnod allweddol. Mae hynny’n effeithio ar flwyddyn 6. Nid yw’r Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno i ddisgyblion yn y flwyddyn honno tan y flwyddyn ysgol 2022 i 2023.

Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005 (“Gorchymyn 2005”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesu disgyblion ym mlwyddyn olaf y trydydd cyfnod allweddol mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae hynny’n cyfateb i flwyddyn ysgol 9. Bydd y Cwricwlwm Cenedlaethol i Gymru yn cael ei gyflwyno i ddisgyblion sydd ym mlwyddyn ysgol 9 yn y flwyddyn ysgol 2024 i 2025. Mae rheoliad 4(1) yn datgymhwyso Gorchymyn 2005 ar gyfer disgyblion mewn ysgolion arbennig o’r flwyddyn ysgol 2021 i 2022. Mae rheoliad 4(2) yn dirymu Gorchymyn 2005 ar gyfer pob ysgol arall o 1 Medi 2024.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013 (“Gorchymyn 2013”). Mae Gorchymyn 2013 yn gymwys i’r disgyblion hynny ym mlynyddoedd 2 i 9. Bydd y profion sy’n ofynnol gan Orchymyn 2013 yn parhau i gael eu gweinyddu gan ysgolion wrth i’r Cwricwlwm newydd i Gymru gael ei gyflwyno i’r blynyddoedd hynny. Yr enw a ddefnyddir yn eang gan ymarferwyr ar gyfer y profion hyn yw “asesiadau personol”. Mae’r darpariaethau trosiannol yn diwygio Gorchymyn 2013 fel y bydd yn parhau i weithio gyda’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Caiff Gorchymyn 2013 ei ddirymu ar 1 Medi 2024. O 1 Medi 2024 bydd pob disgybl a asesir yn unol â Gorchymyn 2013 yn dilyn y Cwricwlwm i Gymru ac ni fydd angen Gorchymyn 2013 mwyach. Bwriedir gwneud Rheoliadau newydd mewn perthynas â phrofion darllen a rhifedd a fydd yn gymwys o 2024 ymlaen.

Mae rheoliad 6 yn datgymhwyso Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a’r Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2014 (“Gorchymyn 2014”) i gyd-daro â chyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Caiff Gorchymyn 2014 ei ddirymu ar 1 Medi 2024. O 1 Medi 2024 bydd pob disgybl a asesir yn unol â Gorchymyn 2014 yn dilyn y Cwricwlwm i Gymru ac ni fydd angen Gorchymyn 2014 mwyach.

Mae rheoliad 7 yn dirymu Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cymedroli Trefniadau Asesu ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2015 o 30 Mai 2022.

Mae rheoliad 8 yn dirymu Rhan 4 o Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Deilliannau Dymunol, Rhaglenni Addysg a Threfniadau Asesu Sylfaenol a Diwedd Cyfnod ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2015 (“Gorchymyn 2015”) ar 30 Mai 2022. Mae Rhan 4 o Orchymyn 2015 yn nodi’r trefniadau asesu ar gyfer blwyddyn olaf y cyfnod sylfaen. Mae hynny’n cyfateb i flwyddyn 2 a bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno i ddisgyblion sydd yn y flwyddyn honno yn y flwyddyn ysgol 2022 i 2023. Caiff Gorchymyn 2015 ei ddirymu’n llawn ar 1 Medi 2022.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Adrodd”) a Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Perfformiad Ysgolion”) sy’n ganlyniadol ar ddirymu Gorchymyn 2004 a Gorchymyn 2015.

Mae’r Rheoliadau Adrodd yn gwneud darpariaeth o ran yr adroddiad y mae’n ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir ei anfon at rieni a disgyblion sy’n oedolion bob blwyddyn ysgol a’r wybodaeth ychwanegol y caiff rhiant ofyn i’r pennaeth amdani. Mae rheoliad 9 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Adrodd fel nad yw’n ofynnol i benaethiaid adrodd ar ganlyniadau’r asesiadau statudol sydd wedi eu dirymu gan y Rheoliadau hyn.

Mae’r Rheoliadau Perfformiad Ysgolion yn rheoleiddio trosglwyddo gwybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad addysgol disgyblion o benaethiaid i gyrff llywodraethu ysgolion, awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru. Mae rheoliad 10(2) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Perfformiad Ysgolion er mwyn dileu’r gofyniad ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir i ddarparu canlyniadau’r asesiadau statudol sydd wedi eu dirymu gan y Rheoliadau hyn i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol ac i Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 10(3) yn diwygio’r Rheoliadau Perfformiad Ysgolion ymhellach drwy roi Atodlen 2 newydd yn lle’r un bresennol. Effaith hynny yw bod canlyniadau’r profion darllen a rhifedd wedi eu heithrio o’r wybodaeth am asesiadau statudol y mae rhaid i gorff llywodraethu ysgol ei hanfon i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol honno.

Mae rheoliad 11 yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 er mwyn dileu’r gofyniad i awdurdodau lleol ysgolion ddosbarthu copïau o’r prosbectws cyfansawdd yn ddi-dâl i rieni a disgyblion sydd yn y flwyddyn olaf yn yr ysgol ac a allai drosglwyddo i ysgolion eraill o’r fath.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Adeilad y Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.