Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 533 (Cy. 125)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022

Gwnaed

11 Mai 2022

Yn dod i rym

13 Mai 2022

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5)(t) o’r Ddeddf honno.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Mai 2022.

RHAN 2Diwygio deddfwriaeth sylfaenol

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

2.—(1Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn adran 12 (aelodaeth pwyllgor gwasanaethau democrataidd)—

(a)yn is-adran (2)(b), ar ôl “weithrediaeth yr awdurdod” mewnosoder “(ond gweler is-adran (6))”;

(b)ar ôl is-adran (5) mewnosoder—

(6) Os penodir dau neu ragor o aelodau awdurdod lleol i’r weithrediaeth i rannu swydd, caniateir penodi mwy nag un o’r aelodau hynny i bwyllgor gwasanaethau democrataidd yr awdurdod (ac os y’u penodir hwy felly, gyda’i gilydd maent yn cyfrif fel un aelod gweithrediaeth at ddibenion is-adran (2)(b)).

(3Yn adran 14 (trafodion pwyllgor gwasanaethau democrataidd), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(4A) Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, mae gan yr aelodau hynny un bleidlais rhyngddynt at ddibenion is-adran (4).

(4Yn adran 15 (pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd pwyllgor gwasanaethau democrataidd), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A) Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor gwasanaethau democrataidd yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, nid yw’r aelodau hynny gyda’i gilydd ond yn cyfrif fel un aelod o’r pwyllgor at ddibenion is-adran (2)(b).

(5Yn adran 82 (aelodaeth pwyllgor llywodraethu ac archwilio)—

(a)yn is-adran (2)(c), ar ôl “weithrediaeth yr awdurdod” mewnosoder “(ond gweler is-adran (8))”;

(b)ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

(8) Os yw dau neu ragor o aelodau awdurdod lleol wedi eu penodi i’r weithrediaeth i rannu swydd, caniateir penodi mwy nag un o’r aelodau hynny i bwyllgor llywodraethu ac archwilio yr awdurdod (ac os y’u penodir hwy felly, gyda’i gilydd maent yn cyfrif fel un aelod gweithrediaeth at ddibenion is-adran (2)(c)).

(6Yn adran 83 (trafodion pwyllgor llywodraethu ac archwilio), ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A) Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor llywodraethu ac archwilio yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, mae gan yr aelodau hynny un bleidlais rhyngddynt at ddibenion is-adran (3).

(7Yn adran 84 (pa mor aml y cynhelir cyfarfodydd pwyllgor llywodraethu ac archwilio), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(2A) Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor llywodraethu ac archwilio yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, nid yw’r aelodau hynny gyda’i gilydd ond yn cyfrif fel un aelod o’r pwyllgor at ddibenion is-adran (2)(b).

RHAN 3Diwygio is-ddeddfwriaeth

Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001

3.—(1Mae Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—

mae i “cynorthwyydd gweithrediaeth” yr un ystyr ag a roddir i “assistant to the executive” ym mharagraff 3A o Atodlen 1 i Ddeddf 2000;.

(3Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor safonau yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, nid yw’r aelodau hynny gyda’i gilydd ond yn cyfrif fel un aelod o’r pwyllgor at ddibenion paragraffau (1) a (2).

(4Yn rheoliad 5, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor safonau yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, nid yw’r aelodau hynny gyda’i gilydd ond yn cyfrif fel un aelod o’r pwyllgor at ddibenion paragraffau (1) a (2).

(5Yn rheoliad 9—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “gynnwys mwy nag un aelod gweithredol o’r awdurdod hwnnw.” rhodder—

gynnwys mwy nag un o’r rhai a ganlyn—

(a)aelod gweithrediaeth o’r awdurdod hwnnw (ond gweler paragraff (3)), neu

(b)cynorthwyydd i’w weithrediaeth.;

(b)ym mharagraff (2), yn lle “gynnwys mwy nag un aelod gweithredol o bob un awdurdod lleol cyfansoddol.” rhodder—

gynnwys mwy nag un o’r rhai a ganlyn o bob un awdurdod lleol cyfansoddol—

(a)aelod gweithrediaeth (ond gweler paragraff (3)), neu

(b)cynorthwyydd gweithrediaeth.;

(c)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Os yw dau neu ragor o aelodau awdurdod lleol yn cael eu penodi i’r weithrediaeth i rannu swydd—

(a)caiff pwyllgor safonau gynnwys mwy nag un o’r aelodau hynny, ac os yw’n gwneud hynny, gyda’i gilydd maent yn cyfrif fel un aelod gweithrediaeth at ddibenion paragraff (1)(a);

(b)caiff cyd-bwyllgor gynnwys mwy nag un o’r aelodau hynny o awdurdod lleol cyfansoddol, ac os yw’n gwneud hynny, gyda’i gilydd mae’r aelodau hynny’n cyfrif fel un aelod gweithrediaeth at ddibenion paragraff (2)(a).

(6Yn rheoliad 23, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor safonau yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, mae gan yr aelodau hynny un bleidlais rhyngddynt at ddibenion paragraff (2).

(7Yn rheoliad 24, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Os yw dau neu ragor o aelodau pwyllgor safonau yn aelodau o’r weithrediaeth sy’n rhannu swydd, nid yw’r aelodau hynny gyda’i gilydd ond yn cyfrif fel un aelod o’r pwyllgor at ddibenion paragraffau (1) a (2).

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol a Threfniadau Amgen) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) (Cymru) 2002

4.  Yng Ngorchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol a Threfniadau Amgen) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) (Cymru) 2002(4), yn erthygl 41(6), ar ôl “adran 11(8)” mewnosoder “neu 11(8ZA)”.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

11 Mai 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau sy’n ganlyniadol i adrannau 57 a 58 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021)”, ac Atodlen 7 iddi, sy’n diwygio darpariaethau yn Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”), ac Atodlen 1 iddi. Mae adran 57 o Ddeddf 2021 yn ymwneud â phenodi cynorthwywyr gweithrediaeth awdurdod lleol ac mae adran 58 ac Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â rhannu swydd ar weithrediaeth awdurdod lleol.

Mae rheoliad 2 yn diwygio darpariaethau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 i ddarparu y caniateir i ddau neu ragor o aelodau awdurdod lleol sy’n rhannu swydd ar y weithrediaeth gael eu penodi i bwyllgor gwasanaethau democrataidd awdurdod lleol, neu bwyllgor llywodraethu ac archwilio awdurdod lleol, ond nad yw’r aelodau hynny gyda’i gilydd ond yn cyfrif fel un aelod at y dibenion a bennir mewn cysylltiad â phob pwyllgor (aelodaeth, pleidleisio a hawlio cyfarfod).

Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”) i ddarparu na chaiff pwyllgor safonau awdurdod lleol ond cynnwys naill ai un aelod gweithrediaeth neu un cynorthwyydd gweithrediaeth, o’r awdurdod lleol hwnnw. At hynny, pan fo dau neu ragor o awdurdodau lleol yn sefydlu cyd-bwyllgor safonau, ni chaiff y pwyllgor hwnnw ond cynnwys naill ai un aelod gweithrediaeth neu un cynorthwyydd gweithrediaeth, o bob awdurdod lleol cyfansoddol.

Mae rheoliad 3 hefyd yn diwygio Rheoliadau 2001 i ddarparu y caniateir i ddau neu ragor o aelodau gweithrediaeth awdurdod lleol sy’n rhannu swydd gael eu penodi i bwyllgor safonau awdurdod lleol, ond nad yw’r aelodau hynny gyda’i gilydd ond yn cyfrif fel un aelod at y dibenion a bennir (maint a chyfansoddiad y pwyllgor, pleidleisio a chworwm).

Mae rheoliad 4 yn diwygio Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol a Threfniadau Amgen) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) (Cymru) 2002 i ddarparu nad yw maer dros dro nac aelodau gweithrediaeth dros dro i’w trin fel aelodau o weithrediaeth awdurdod lleol at ddiben y terfyn statudol a osodwyd ar nifer aelodau’r weithrediaeth a nodir yn adran 11 o Ddeddf 2000.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(2)

2011 mccc 4; diwygiwyd adrannau 12 a 82 gan baragraff 6 o Atodlen 6 a pharagraff 4 o Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

(3)

O.S. 2001/2283 (Cy. 172); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2006/1849 (Cy. 192), 2016/85 (Cy. 39).