NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), sy’n diffinio eiddo domestig at ddibenion Rhan 3 (ardrethu annomestig) o’r Ddeddf honno.

Mae adran 66(2BB) o Ddeddf 1988 yn nodi’r amgylchiadau pan fo adeilad neu ran hunangynhwysol o adeilad a osodir yn fasnachol am gyfnodau byr fel llety hunanddarpar (“y llety”) wedi eu hatal rhag cael eu hystyried yn eiddo domestig. Mae’r amgylchiadau hynny’n cynnwys pennu nifer y diwrnodau y mae’r llety wedi bod ar gael i’w osod, neu y bwriedir iddo fod ar gael i’w osod, er mwyn ei atal rhag cael ei ystyried yn eiddo domestig.

Mae erthygl 2(2) o’r Gorchymyn hwn yn diwygio nifer y diwrnodau sy’n ofynnol i fodloni’r amgylchiadau a nodir yn adran 66(2BB) fel bod—

a

y gofyniad i fwriadu gosod y llety am gyfnodau byr a ddaw i gyfanswm o 140 o ddiwrnodau neu ragor yn y flwyddyn yn dilyn diwrnod yr asesu, wedi ei gynyddu i 252 o ddiwrnodau neu ragor,

b

y gofyniad i fod wedi rhoi’r llety ar gael i’w osod am gyfnodau byr a ddaw i gyfanswm o 140 o ddiwrnodau neu ragor yn y flwyddyn cyn diwrnod yr asesu, wedi ei gynyddu i 252 o ddiwrnodau neu ragor, ac

c

y gofyniad bod y cyfnodau byr y cafodd y llety, neu’r cyfnodau byr y cafodd y llety ac adeiladau eraill neu rannau hunangynhwysol o’r adeiladau eraill hynny yn yr un lleoliad â’r llety neu’n agos iawn iddo, ei osod neu eu gosod mewn gwirionedd fel llety hunanddarpar, yn y flwyddyn cyn diwrnod yr asesu yn dod i 70 o ddiwrnodau o leiaf, wedi ei gynyddu i 182 o ddiwrnodau o leiaf.

Mae erthygl 3 yn cynnwys darpariaeth drosiannol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.