- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gwnaed
20 Mai 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
24 Mai 2022
Yn dod i rym
14 Mehefin 2022
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 a daw i rym ar 14 Mehefin 2022.
2.—(1) Mae adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (2BB)(4)—
(a)yn lle “140”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “252”;
(b)yn lle “70”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “182”.
3.—(1) Mewn perthynas â diwrnod asesu sy’n digwydd cyn 1 Ebrill 2023, mae’r cyfeiriadau at 252 a 182 a fewnosodir gan erthygl 2 yn adran 66(2BB) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i’w dehongli fel cyfeiriadau at 140 a 70 yn y drefn honno.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod asesu” yw’r diwrnod y mae’r cwestiwn yn cael ei ystyried mewn perthynas ag ef o dan adran 66(2BB) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
20 Mai 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), sy’n diffinio eiddo domestig at ddibenion Rhan 3 (ardrethu annomestig) o’r Ddeddf honno.
Mae adran 66(2BB) o Ddeddf 1988 yn nodi’r amgylchiadau pan fo adeilad neu ran hunangynhwysol o adeilad a osodir yn fasnachol am gyfnodau byr fel llety hunanddarpar (“y llety”) wedi eu hatal rhag cael eu hystyried yn eiddo domestig. Mae’r amgylchiadau hynny’n cynnwys pennu nifer y diwrnodau y mae’r llety wedi bod ar gael i’w osod, neu y bwriedir iddo fod ar gael i’w osod, er mwyn ei atal rhag cael ei ystyried yn eiddo domestig.
Mae erthygl 2(2) o’r Gorchymyn hwn yn diwygio nifer y diwrnodau sy’n ofynnol i fodloni’r amgylchiadau a nodir yn adran 66(2BB) fel bod—
(a)y gofyniad i fwriadu gosod y llety am gyfnodau byr a ddaw i gyfanswm o 140 o ddiwrnodau neu ragor yn y flwyddyn yn dilyn diwrnod yr asesu, wedi ei gynyddu i 252 o ddiwrnodau neu ragor,
(b)y gofyniad i fod wedi rhoi’r llety ar gael i’w osod am gyfnodau byr a ddaw i gyfanswm o 140 o ddiwrnodau neu ragor yn y flwyddyn cyn diwrnod yr asesu, wedi ei gynyddu i 252 o ddiwrnodau neu ragor, ac
(c)y gofyniad bod y cyfnodau byr y cafodd y llety, neu’r cyfnodau byr y cafodd y llety ac adeiladau eraill neu rannau hunangynhwysol o’r adeiladau eraill hynny yn yr un lleoliad â’r llety neu’n agos iawn iddo, ei osod neu eu gosod mewn gwirionedd fel llety hunanddarpar, yn y flwyddyn cyn diwrnod yr asesu yn dod i 70 o ddiwrnodau o leiaf, wedi ei gynyddu i 182 o ddiwrnodau o leiaf.
Mae erthygl 3 yn cynnwys darpariaeth drosiannol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.
Yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd y pŵer o dan adran 66(9) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p. 41), i’r graddau yr oedd yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi, mae’r pŵer bellach wedi ei freinio yng Ngweinidogion Cymru.
Diwygiwyd adran 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 gan adran 154(3)(a) o Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) a fewnosododd gyfeiriad at Weinidogion Cymru.
Mewnosodwyd adran 66(2BB) gan O.S. 2010/682 (Cy. 65) ac fe’i diwygiwyd ymhellach gan O.S. 2016/31 (Cy. 12).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: