Offerynnau Statudol Cymru
Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru
Gwnaed
20 Mai 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
24 Mai 2022
Yn dod i rym
23 Tachwedd 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1, 34 a 47(1) o Ddeddf Adeiladu 1984(1), a pharagraffau 1, 2, 4, 4A, 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2) ar ôl ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu a’r cyrff eraill hynny yr ymddengys i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli’r buddiannau o dan sylw yn unol ag adran 14(7) o Ddeddf Adeiladu 1984(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1984 p. 55; diwygiwyd adran 1 gan adran 1 o Ddeddf Adeiladau Cynaliadwy a Diogel 2004 (p. 22) (“Deddf 2004”). Diwygiwyd adran 47 gan O.S. 1996/1905 ac adran 8 o Ddeddf 2004. Am y diffiniad o “prescribed” gweler adran 126 o Ddeddf Adeiladu 1984. Mewnosodwyd paragraff 4A o Atodlen 1 gan adran 8 o Ddeddf 2004; diwygiwyd paragraff 7 o Atodlen 1 gan adran 3 o Ddeddf 2004 a chan adran 11 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2006 (p. 19); a diwygiwyd paragraff 8 o Atodlen 1 gan adran 3 o Ddeddf 2004 ac adran 40 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29).
Trosglwyddwyd y swyddogaethau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1 a 34 o Ddeddf Adeiladu 1984, a pharagraffau 1, 2, 4, 7, 8 a 10 o Atodlen 1 iddi, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Weinidogion Cymru gan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3019) (“Gorchymyn 2009”).
Ychwanegwyd adran 14(7) gan Orchymyn 2009.