RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongliI11

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2022.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Tachwedd 2022.

4

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Rheoliadau Adeiladu” (“the Building Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu 20104;

  • ystyr “y Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy” (“the Approved Inspectors Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 20105.