Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2022

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2022.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Tachwedd 2022.

(4Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Rheoliadau Adeiladu” (“the Building Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu 2010(1);

ystyr “y Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy” (“the Approved Inspectors Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 23.11.2022, gweler rhl. 1(3)

(1)

O.S. 2010/2214, a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/747 (Cy. 89), 2013/2621 (Cy. 258), 2014/110 (Cy. 10), 2015/1486 (Cy. 165), 2016/611 (Cy. 168), 2018/558 (Cy. 97); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(2)

O.S. 2010/2215, a ddiwygiwyd gan O.S. 2012/3119, 2013/747 (Cy. 89), 2013/1959, 2014/58 (Cy. 5), 2014/110 (Cy. 10), 2016/611 (Cy. 168), 2018/558 (Cy. 97); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.