Gwnaed yr Offeryn Statudol hwn o ganlyniad i ddiffyg yn O.S. 2018/1173 (Cy. 237) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.

2022 Rhif 58 (Cy. 22)

Y Gyfraith Gyfansoddiadol

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 126A(2)(a) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 20061, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 126A(6) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Trysorlys cyn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2022.

2

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 14 Chwefror 2022.

Diwygiadau i Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 20182

1

Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 20182 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn yr Atodlen (Cyrff Dynodedig)—

a

hepgorer “North East Property LP (rhif y cwmni LP017936)”;

b

yn y lle priodol mewnosoder “North East Property (GP) Limited (rhif y cwmni 04069901)”.

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 (“Gorchymyn 2018”) drwy ddileu’r corff North East Property LP o’r rhestr o gyrff dynodedig a gynhwysir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwnnw, a oedd wedi ei fewnosod drwy gamgymeriad gan Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2021 (“Gorchymyn 2021”) (O.S. 2021/1345 (Cy. 347)).

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn mewnosod y corff North East Property (GP) Limited yn yr Atodlen i Orchymyn 2018. Effaith y diwygiad hwn yw y caniateir i’r wybodaeth sy’n ymwneud ag adnoddau y disgwylir eu defnyddio gan y corff hwn gael ei chynnwys mewn cynnig Cyllidebol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.