3.—(1) Caiff Porthladdoedd AB, ar ddiwrnod o fewn 42 o ddiwrnodau gan ddechrau pan ddaw’r Gorchymyn hwn i rym, gau Doc Tywysog Cymru.
(2) Pan gaeir Doc Tywysog Cymru o dan baragraff (1)—
(a)mae Doc Tywysog Cymru yn peidio â ffurfio rhan o Borthladd Abertawe;
(b)mae pob dyletswydd a rhwymedigaeth a osodir ar Borthladdoedd AB o dan Ddeddfau Harbwr Abertawe 1874 – 1901 mewn cysylltiad â Doc Tywysog Cymru i ddod i ben;
(c)mae unrhyw hawliau mordwyo, a phob un ohonynt, o fewn Doc Tywysog Cymru wedi eu diddymu;
(d)mae unrhyw ddyletswyddau neu rwymedigaethau, a phob un ohonynt, i gynnal sianel fordwyol i Ddoc Tywysog Cymru o fewn yr ardal a ddangosir â llinellau glas ar blan Doc Tywysog Cymru neu i gynnal pont droi ar draws yr ardal honno wedi ei diddymu.
(3) Cyn arfer y pŵer a roddir iddo gan baragraff (1) rhaid i Borthladdoedd AB—
(a)cyhoeddi hysbysiad o’i fwriad i gau Doc Tywysog Cymru yn Lloyd’s List ac unwaith ym mhob un o ddwy wythnos olynol mewn papur newydd lleol a gyhoeddir neu sy’n cylchredeg yn Abertawe gyda chyfnod rhwng y dyddiadau cyhoeddi nad yw’n llai na chwe diwrnod gwaith;
(b)arddangos copi o un o’r hysbysiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(a) mewn lle amlwg yng nghyffiniau Porthladd Abertawe;
(c)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru o’i fwriad i gau Doc Tywysog Cymru.
(4) Rhaid i’r hysbysiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(a)—
(a)datgan bod Porthladdoedd AB yn bwriadu cau Doc Tywysog Cymru i lestrau a’r dyddiad y mae Doc Tywysog Cymru i gau i lestrau ohono;
(b)pennu dyddiad, sy’n ddyddiad nad yw’n gynharach nag un mis ar ôl dyddiad y diweddaraf o’r tri hysbysiad ym mharagraff (3)(a) erbyn pryd y mae rhaid i bob llestr gael ei symud o Ddoc Tywysog Cymru.
4.—(1) Pan gaeir Doc Tywysog Cymru yn unol ag erthygl 3, mae Deddfau Harbwr Abertawe 1874 – 1901, gan gynnwys unrhyw gytundeb sydd wedi ei atodi i unrhyw un neu ragor o’r Deddfau hynny, yn peidio â bod yn gymwys i Ddoc Tywysog Cymru.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—
(a)adran 6 (pŵer i ddargyfeirio dŵr i’r dociau) o Ddeddf 1874;
(b)adran 7 (pŵer i ddargyfeirio dŵr i’r dociau) o Ddeddf 1894;
(c)adran 7 (pŵer i gymryd dŵr a’i ddargyfeirio) o Ddeddf 1901.
5.—(1) Os nad yw meistr unrhyw lestr sydd o fewn Doc Tywysog Cymru yn symud y llestr cyn y dyddiad a bennir yn unol ag erthygl 3(4)(b), caiff y docfeistr beri i’r llestr honno gael ei symud o Ddoc Tywysog Cymru a’i hangori neu ei gosod yn unrhyw le arall lle y gall, heb niwed, gael ei hangori neu ei gosod.
(2) Caiff Porthladdoedd AB adennill fel dyled gan feistr unrhyw lestr a symudir o dan baragraff (1) bob traul resymol yr eir iddi mewn cysylltiad â’i symud.
6. Os yw unrhyw lestr yn mynd i Ddoc Tywysog Cymru ar ôl y dyddiad a bennir yn erthygl 3(4)(b) o’r Gorchymyn hwn, caiff y docfeistr gyfarwyddo meistr y llestr i symud y llestr o Ddoc Tywysog Cymru, ac os nad yw meistr y llestr yn cydymffurfio heb oedi gormodol â chyfarwyddydau o’r fath, mae erthygl 5 yn gymwys i’r llestr fel pe bai’r llestr wedi bod o fewn Doc Tywysog Cymru cyn y dyddiad hwnnw.