2022 Rhif 594 (Cy. 137)
Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cyfyngiadau Fukushima) (Dirymu) (Cymru) 2022
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan Erthyglau 53(1)(b) a 57a(6) o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd1.
Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002, ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn.
Enwi, rhychwant, cymhwyso a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cyfyngiadau Fukushima) (Dirymu) (Cymru) 2022.
2
Mae’r Rheoliadau hyn—
a
yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
b
yn gymwys o ran Cymru;
c
yn dod i rym ar 29 Mehefin 2022.
Dirymu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir2
Mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu—
a
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/6 dyddiedig 5 Ionawr 2016 sy’n gosod amodau arbennig sy’n llywodraethu mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd sy’n tarddu o Japan neu’n cael eu traddodi o Japan yn dilyn y ddamwain yng ngorsaf ynni niwclear Fukushima ac sy’n diddymu Rheoliad Gweithredu (EU) Rhif 322/20142;
b
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2058 dyddiedig 10 Tachwedd 2017 sy’n diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/6 sy’n gosod amodau arbennig sy’n llywodraethu mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd sy’n tarddu o Japan neu’n cael eu traddodi o Japan yn dilyn y ddamwain yng ngorsaf ynni niwclear Fukushima3;
c
Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1787 dyddiedig 24 Hydref 2019 sy’n diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/6 sy’n gosod amodau arbennig sy’n llywodraethu mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd sy’n tarddu o Japan neu’n cael eu traddodi o Japan yn dilyn y ddamwain yng ngorsaf ynni niwclear Fukushima4.
Dirymu Datganiad OFFC/2019/W/043
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)