Dirymu deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir

2.  Mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/6 dyddiedig 5 Ionawr 2016 sy’n gosod amodau arbennig sy’n llywodraethu mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd sy’n tarddu o Japan neu’n cael eu traddodi o Japan yn dilyn y ddamwain yng ngorsaf ynni niwclear Fukushima ac sy’n diddymu Rheoliad Gweithredu (EU) Rhif 322/2014(1);

(b)Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2058 dyddiedig 10 Tachwedd 2017 sy’n diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/6 sy’n gosod amodau arbennig sy’n llywodraethu mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd sy’n tarddu o Japan neu’n cael eu traddodi o Japan yn dilyn y ddamwain yng ngorsaf ynni niwclear Fukushima(2);

(c)Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1787 dyddiedig 24 Hydref 2019 sy’n diwygio Rheoliad Gweithredu (EU) 2016/6 sy’n gosod amodau arbennig sy’n llywodraethu mewnforio bwyd anifeiliaid a bwyd sy’n tarddu o Japan neu’n cael eu traddodi o Japan yn dilyn y ddamwain yng ngorsaf ynni niwclear Fukushima(3).

(1)

EUR 2016/6, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1504.

(2)

EUR 2017/2058.

(3)

EUR 2019/1787.