xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5.—(1) Rhaid i’r landlord sicrhau, yn ystod pob cyfnod meddiannaeth, bod larwm mwg ar bob llawr o’r annedd sydd—
(a)mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn,
(b)wedi ei gysylltu â chyflenwad trydan yr annedd, ac
(c)wedi ei gysylltu â phob larwm mwg arall yn yr annedd sydd wedi ei gysylltu â’r cyflenwad trydan.
(2) Rhaid i’r landlord sicrhau, yn ystod pob cyfnod meddiannaeth, bod larwm carbon monocsid sydd mewn cyflwr da ac yn gweithio’n iawn ym mhob ystafell o’r annedd sy’n cynnwys cyfarpar nwy, cyfarpar hylosgi sy’n cael ei danio ag olew neu gyfarpar hylosgi sy’n llosgi tanwydd solet.
(3) Mae annedd i’w thrin fel pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi pan nad yw’r landlord yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan baragraff (1) neu (2).
(4) At ddibenion paragraff (3), mae landlord sydd heb gydymffurfio ag—
(a)paragraff (1) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r paragraff hwnnw o’r adeg y mae’r landlord yn sicrhau bod larwm mwg (neu larymau mwg) yn bresennol yn yr annedd fel y disgrifir yn y paragraff hwnnw;
(b)paragraff (2) i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r paragraff hwnnw o’r adeg y mae’r landlord yn sicrhau bod larwm carbon monocsid (neu larymau carbon monocsid) yn bresennol yn yr annedd fel y disgrifir yn y paragraff hwnnw.
(5) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfarpar nwy” (“gas appliance”) yw cyfarpar a ddyluniwyd i’w ddefnyddio gan ddefnyddiwr nwy ar gyfer gwresogi, goleuo, coginio neu at ddibenion eraill y gellir defnyddio nwy ar eu cyfer, ond nid yw’n cynnwys—
cyfarpar cludadwy neu symudol a gyflenwir â nwy o silindr, na’r silindr, y pibellau a’r ffitiadau eraill a ddefnyddir i gyflenwi nwy i’r cyfarpar hwnnw, neu
cyfarpar y mae gan ddeiliad y contract yr hawl i fynd ag ef o’r annedd o dan delerau’r contract meddiannaeth;
mae i “nwy” yr ystyr a roddir i “gas” gan adran 48(1) o Ddeddf Nwy 1986(1);
mae “ystafell” (“room”) yn cynnwys cyntedd, pen grisiau neu goridor.
1986 p. 44. Mae diwygiadau i adran 48 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.