- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
am 4.31 p.m. ar 10 Mehefin 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 5 a Gorchymyn Cychwyn Rhif 6) 2022.
2.—(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 9(2), ar ôl “y flwyddyn ysgol 2021-2022” mewnosoder “neu’r flwyddyn ysgol 2022-2023”.
(3) Yn erthygl 10(1), yn lle “mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 5, blwyddyn 9 neu flwyddyn” rhodder “ym mlwyddyn”.
(4) Yn erthygl 15—
(a)ym mharagraff 1(c), yn lle “2022” rhodder “2023”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “2022” rhodder “2023”.
(5) Yn erthygl 16(1)(b) yn lle “mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 5, blwyddyn 9 neu flwyddyn” rhodder “ym mlwyddyn”.
3.—(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 9(2), ar ôl “y flwyddyn ysgol 2021-2022” mewnosoder “neu’r flwyddyn ysgol 2022-2023”.
(3) Yn erthygl 10(1), yn lle “mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 5, blwyddyn 9 neu flwyddyn” rhodder “ym mlwyddyn”.
(4) Yn erthygl 15—
(a)ym mharagraff (1)(c), yn lle “2022” rhodder “2023”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “2022” rhodder “2023”.
(5) Yn erthygl 16(1)(b) yn lle “mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 5, blwyddyn 9 neu flwyddyn” rhodder “ym mlwyddyn”.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
Am 4.31 p.m. ar 10 Mehefin 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021.
Mae’r ddau orchymyn cychwyn hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion a gynhelir (Gorchymyn Cychwyn Rhif 5) ac awdurdodau lleol (Gorchymyn Cychwyn Rhif 6) roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blant penodol. Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r gofyniad mewn perthynas â’r flwyddyn ysgol 2021-2022, fel y gellir rhoi’r hysbysiad CDU neu’r hysbysiad Dim CDU yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022 neu’r flwyddyn ysgol 2022-2023 (erthyglau 2(2) a 3(2)). Mae hefyd yn gwneud diwygiad sy’n ganlyniadol ar y newid hwnnw (erthyglau 2(4) a 3(4)).
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn diwygio’r grwpiau blwyddyn y mae rhaid rhoi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU iddynt yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023 (erthyglau 2(3) a (5) ac erthyglau 3(3) a (5)).
O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68) a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/1428 (Cy. 369) (C. 80).
O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69) a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/1428 (Cy. 369) (C. 80).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: