Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 1) 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn sefydlu fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer plant a disgyblion yng Nghymru (“y Cwricwlwm newydd i Gymru”). Mae adran 74(1) o Ddeddf 2021 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r Ddeddf honno er mwyn rhoi iddi ei heffaith. Mae adran 75(1)(b) o Ddeddf 2021 yn darparu ymhellach y caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

Bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei gyflwyno i blant a disgyblion fesul cam. Daw’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn fandadol ar gyfer y grwpiau blwyddyn mewn ysgolion a lleoliadau eraill fel a ganlyn—

(a)o 1 Medi 2022 ar gyfer—

(i)plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer,

(ii)disgyblion sy’n cael addysg feithrin mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir,

(iii)disgyblion yn eu blwyddyn derbyn, a

(iv)disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6,

(b)o 1 Medi 2022 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 7 yn yr ysgolion hynny a’r lleoliadau eraill hynny pan fo cwricwlwm wedi ei ddarparu yn unol â Deddf 2021,

(c)o 1 Medi 2023 ar gyfer plant a disgyblion—

(i)ym mlwyddyn 7, a

(ii)ym mlwyddyn 8,

(d)o 1 Medi 2024 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 9,

(e)o 1 Medi 2025 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 10, ac

(f)o 1 Medi 2026 ar gyfer plant a disgyblion ym mlynyddoedd 11 i 13.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â phlant a disgyblion y darperir addysg iddynt—

(a)mewn ysgolion a gynhelir,

(b)mewn ysgolion meithrin a gynhelir,

(c)gan ddarparwyr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir,

(d)mewn unedau cyfeirio disgyblion, ac

(e)gan bersonau sy’n darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.