12.—(1) Mae Rheoliadau Cymeriad Crefyddol Ysgolion (Gweithdrefn Ddynodi) (Cymru) 2016(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Mae’r diwygiadau hyn yn cymryd effaith mewn cysylltiad â disgyblion mewn ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol a gynhelir sydd—
(a)o 1 Medi 2022—
(i)yn cael addysg feithrin;
(ii)mewn blwyddyn derbyn;
(iii)ym mlynyddoedd 1 i 6;
(iv)ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;
(b)o 1 Medi 2023—
(i)ym mlwyddyn 7;
(ii)ym mlwyddyn 8;
(c)o 1 Medi 2024 ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir;
(d)o 1 Medi 2025 ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir;
(e)o 1 Medi 2026 ym mlwyddyn 11 i 13 mewn ysgol a gynhelir.
(3) Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “y grefydd berthnasol neu’r enwad crefyddol perthnasol” rhodder—
“ystyr “y grefydd berthnasol neu’r enwad crefyddol perthnasol” (“the relevant religion or religious denomination”) yw’r grefydd neu’r enwad crefyddol y caiff addysgu a dysgu mewn cysylltiad â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg eu darparu yn unol â’i daliadau neu â’i ddaliadau—
o dan baragraff 7(3) neu baragraff 8(4) o Atodlen 1 i Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, neu
o dan adran 61 o’r Ddeddf honno, ac yn unol—
ag unrhyw ddarpariaethau yng ngweithred ymddiriedolaeth yr ysgol sy’n ymwneud ag addysgu a dysgu mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, neu
â daliadau’r grefydd neu’r enwad crefyddol a bennir mewn perthynas â’r ysgol mewn gorchymyn o dan adran 68A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2).”
(4) Yn rheoliad 4(3), yn lle “69(3)” rhodder “68A(1)”.
Gweler adran 47(2) o Ddeddf Addysg 2005 a fewnosodwyd gan O.S. 2022/XXX sy’n amnewid y diffiniad o “denominational education” o ran Cymru.