- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg a ddarperir i blant neu ddisgyblion sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol—
mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu
gan ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;
mae i “addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” (“funded non-maintained nursery education”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 80(1)(a) o Ddeddf 2021;
ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 7 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 12” (“year 12”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 17 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn 13” (“year 13”) yw’r grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 18 oed ynddo;
ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;
mae i “cwricwlwm perthnasol” (“relevant curriculum”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 56(5) o Ddeddf 2021;
ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;
mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf Addysg 1996(1);
ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o ddisgyblion mewn ysgol y bydd y rhan fwyaf ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(a) o Ddeddf 2021;
mae i “ysgol feithrin a gynhelir” (“maintained nursery school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(b) o Ddeddf 2021.
(2) Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Neddf 2021 yr un ystyr ag yn y Ddeddf honno.
1996 p. 56. Diwygiwyd is-adran (1) gan adran 57(1) o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) a pharagraff 9 o Atodlen 7 iddi a diwygiwyd is-adrannau (1) ac (1A) ymhellach gan adran 215(1) o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) a pharagraff 34 o Atodlen 21 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: