xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Mae’r diwygiad a wneir yn cymryd effaith mewn cysylltiad â disgyblion sy’n mynychu ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig, ac sydd—
(a)o 1 Medi 2022—
(i)yn eu blwyddyn derbyn;
(ii)ym mlynyddoedd 1 i 6;
(iii)ym mlwyddyn 7 pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;
(b)o 1 Medi 2023—
(i)ym mlwyddyn 7;
(ii)ym mlwyddyn 8;
(c)o 1 Medi 2024 ym mlwyddyn 9;
(d)o 1 Medi 2025 ym mlwyddyn 10;
(e)o 1 Medi 2026 ym mlynyddoedd 11 i 13.
(3) Yn rheoliad 13, yn lle’r diffiniad o “addysg enwadol” rhodder—
“mae i “addysg enwadol” yr ystyr a roddir i “denominational education” gan adran 47(2) o Ddeddf Addysg 2005;”.