- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Mae’r diwygiadau hyn yn cymryd effaith mewn cysylltiad â disgyblion sydd—
(a)o 1 Medi 2022—
(i)mewn blwyddyn derbyn mewn ysgol a gynhelir;
(ii)ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn ysgol a gynhelir;
(iii)ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;
(b)o 1 Medi 2023—
(i)ym mlwyddyn 7;
(ii)ym mlwyddyn 8;
(c)o 1 Medi 2024 ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir;
(d)o 1 Medi 2025 ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir;
(e)o 1 Medi 2026 ym mlwyddyn 11 mewn ysgol a gynhelir.
(3) Yn rheoliad 2(1)—
(a)hepgorer y diffiniad o “cyfnod sylfaen”,
(b)hepgorer y diffiniad o “cyfnod allweddol”,
(c)yn y diffiniad o “categori iaith”, yn lle’r geiriau o “Diffinio ysgolion” hyd at “Cylchlythyr 023/2007” rhodder “Canllawiau ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg” a gyhoeddwyd gyntaf gan Weinidogion Cymru ar 16 Rhagfyr 2021”,
(d)hepgorer y diffiniad o “asesiadau statudol”, ac
(e)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “Cwricwlwm i Gymru” (“Curriculum for Wales”) yw cwricwlwm a weithredir yn unol â Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021(2);”.
(4) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 8, yn lle “o’r Cwricwlwm Cenedlaethol ynglŷn â’r Gymraeg o dan adrannau 112, 113 neu 114 o Ddeddf 2002” rhodder “o elfen fandadol y Gymraeg, fel y’i nodir yn adran 3(2) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, o dan adrannau 41, 42 ac 48 o’r Ddeddf honno”.
(5) Yn Atodlen 3—
(a)hepgorer paragraff 12,
(b)hepgorer paragraff 13,
(c)yn lle paragraff 16 rhodder—
“16. Crynodeb o’r cwricwlwm mabwysiedig fel sy’n ofynnol o dan adran 11(1)(b) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.”,
(d)ym mharagraff 17—
(i)yn lle “adran 71” rhodder “reoliadau a wneir o dan adran 71(7A)”, a
(ii)hepgorer “neu addysg grefyddol”,
(e)ym mharagraff 26(1)(a), yn lle “cyfnod allweddol” rhodder “grŵp oedran”, ac
(f)ym mharagraff 26(2), yn lle “o’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn Gymraeg o dan adrannau 112, 113 neu 114 o Ddeddf 2002” rhodder “o elfen fandadol y Gymraeg, fel y’i nodir yn adran 3(2) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, o dan adrannau 41, 42 ac 48 o’r Ddeddf honno”.
O.S. 2011/1944 (Cy. 211), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/1944 (Cy. 53); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
Mae Rhan 2 o Ddeddf 2021 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynllunio, mabwysiadu a gweithredu cwricwlwm ar gyfer ysgolion a gynhelir, ysgolion meithrin a gynhelir, a darparwyr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir yng Nghymru. Gweler hefyd Ran 3 o Bennod 4 o’r Ddeddf honno am ddarpariaeth ynghylch cwricwlwm ar gyfer darpariaeth eithriadol o addysg mewn unedau cyfeirio disgyblion neu mewn mannau eraill.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: