RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022.

(2Daw Rhan 1 i rym ar 1 Medi 2022.

(3Daw Rhan 2 i rym fel y’i nodir yn y rheoliadau unigol.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg a ddarperir i blant neu ddisgyblion sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol—

(a)

mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu

(b)

gan ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

mae i “addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” (“funded non-maintained nursery education”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 80(1)(a) o Ddeddf 2021;

ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;

mae i “cwricwlwm perthnasol” (“relevant curriculum”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 56(5) o Ddeddf 2021;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(1);

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;

mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996(2);

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant neu ddisgyblion mewn lleoliad y bydd y rhan fwyaf ohonynt, mewn blwyddyn academaidd benodol, yn cyrraedd yr un oedran;

ystyr “lleoliad” (“setting”) yw—

(a)

ysgol a gynhelir,

(b)

ysgol feithrin a gynhelir,

(c)

darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, a

(d)

uned cyfeirio disgyblion;

mae i “pennaeth” yr ystyr a roddir i “head teacher” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(a) o Ddeddf 2021;

mae i “ysgol feithrin a gynhelir” (“maintained nursery school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(b) o Ddeddf 2021.

(2)

Diwygiwyd is-adran (1) gan adran 71(1) o Ddeddf Addysg 1997 a pharagraff 9 o Atodlen 6 iddi a diwygiwyd is-adran (1) ac (1A) ymhellach gan adran 215(1) o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) a pharagraff 34 o Atodlen 21 iddi.