- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3. Caiff Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2005(1) eu dirymu ar 1 Medi 2022.
4. Caiff Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru) (Datgymhwyso Gwyddoniaeth yng Nghyfnod Allweddol 4) 2006(2) eu dirymu ar 1 Medi 2022.
5.—(1) Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2008(3) (“Gorchymyn 2008”) yn gymwys fel a ganlyn.
(2) Ar 1 Medi 2022, nid yw Gorchymyn 2008 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Ran 2 o Ddeddf 2021.
(3) O 1 Medi 2023, nid yw Gorchymyn 2008 yn gymwys i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 neu 8 mewn ysgol a gynhelir.
(4) Caiff Gorchymyn 2008 ei ddirymu ar 1 Medi 2024.
6.—(1) Mae Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008(4) (“Gorchymyn 2008”) yn gymwys fel a ganlyn.
(2) O 1 Medi 2022, nid yw erthyglau 4 i 15 yn gymwys i ddisgyblion ym mlynyddoedd 3, 4, 5 a 6 mewn ysgol a gynhelir.
(3) Ar 1 Medi 2022, nid yw erthyglau 4 i 15 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadau cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Ran 2 o Ddeddf 2021.
(4) O 1 Medi 2023, nid yw erthyglau 4 i 15 yn gymwys i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 neu 8 mewn ysgol a gynhelir.
(5) O 1 Medi 2024, nid yw erthyglau 4 i 15 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir.
(6) O 1 Medi 2025, nid yw erthyglau 6, 10, 13, 14 a 15 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir.
(7) Caiff y Gorchmynion a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2026—
(a)Gorchymyn 2008; a
(b)Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) (Diwygio) 2015(5).
7. Caiff Rheoliadau Addysg (Datgymhwyso Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yng Nghyfnod Allweddol 1) (Cymru) 2008(6) eu dirymu ar 1 Medi 2022.
8.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009(7) (“Rheoliadau 2009”) yn gymwys fel a ganlyn.
(2) O 1 Medi 2024, nid yw Rheoliadau 2009 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir.
(3) Caiff y Rheoliadau a ganlyn eu dirymu ar 1 Medi 2026—
(a)Rheoliadau 2009,
(b)rheoliad 8 o Reoliadau Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2010(8),
(c)Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) (Diwygio) 2014(9), a
(d)rheoliad 10 o Reoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016(10).
9.—(1) Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011(11) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar 1 Medi 2022—
(a)mae rheoliad 2 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(i)hepgorer y diffiniadau o “asesiadau statudol”, “cyfnod allweddol” a “cyfnod sylfaen”,
(ii)yn y diffiniad o “categori iaith”, yn lle’r geiriau “Diffinio ysgolion” hyd at “Cylchlythyr 023/2007” rhodder “Canllawiau ar gategoreiddio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg” a gyhoeddwyd gyntaf gan Weinidogion Cymru ar 16 Rhagfyr 2021(12)”, a
(iii)yn y lleoedd priodol mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—
“ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y grŵp blwyddyn yn cyrraedd 16 oed ynddi;”;
“ystyr “blwyddyn meithrin” (“nursery year”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y grŵp blwyddyn yn cyrraedd 4 oed ynddi;” a
(b)mae Atodlen 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(i)ym mharagraff 11, hepgorer “gan gynnwys y ddarpariaeth a wnaed ar gyfer gweithgareddau chwaraeon allgwricwlaidd yn ystod y cyfnod hwnnw”, a
(ii)ym mharagraff 17, yn lle is-baragraff (a) rhodder—
“(a)defnydd o’r Gymraeg fel iaith yr addysgu i ddisgyblion ym mhob blwyddyn o’r flwyddyn meithrin hyd at flwyddyn 11 a’r graddau y mae addysgu arall ar gael yn Saesneg;”.
10.—(1) Mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012(13) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar 1 Medi 2022—
(a)mae rheoliad 3 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(i)yn y lleoedd priodol mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—
“ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;”,
“ystyr “blwyddyn meithrin” (“nursery year”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 4 oed ynddi;”,
“ystyr “Cwricwlwm i Gymru” (“Curriculum for Wales”) yw’r cwricwlwm a fabwysiedir neu a ddarperir o dan Ran 2 neu 3 o Ddeddf 2021;”,
“ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021(14);”, a
(b)yn lle paragraff 1(c)(i) o Atodlen 2 rhodder—
“(i)yn gyfan gwbl neu’n bennaf mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) yng Nghymru—
(aa)y mae, neu yr oedd, Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yn cael ei addysgu ynddi neu ynddo mewn perthynas â’r cyfnod sylfaen, neu’r ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol neu’r pedwerydd cyfnod allweddol, fel y bo’n briodol i’r ysgol neu’r sefydliad,
(bb)pan fo’r Cwricwlwm i Gymru yn cael ei addysgu mewn perthynas â’r flwyddyn meithrin hyd at flwyddyn 11, neu
(cc)pan fo’r cyfnod o hyfforddiant yr ymgymerwyd ag ef gan y person wedi cynnwys addysgu o dan Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru ac o dan y Cwricwlwm i Gymru);”.
11.—(1) Mae Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio at gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013(15) (“Gorchymyn 2013”) yn gymwys fel a ganlyn.
(2) O 1 Medi 2022, nid yw Gorchymyn 2013 yn gymwys—
(a)i blant a disgyblion—
(i)sy’n cael addysg feithrin mewn ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol a gynhelir, neu
(ii)sy’n cael addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir,
(b)i ddisgyblion yn eu blwyddyn derbyn, ac
(c)i ddisgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6.
(3) Ar 1 Medi 2023, nid yw Gorchymyn 2013 yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Ran 2 o Ddeddf 2021.
(4) O 1 Medi 2023, nid yw Gorchymyn 2013 yn gymwys i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 neu 8 mewn ysgol a gynhelir.
(5) Caiff Gorchymyn 2013 ei ddirymu ar 1 Medi 2024.
12.—(1) Mae Rheoliadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau sy’n ymwneud â Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013(16) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Caiff rheoliad 2 ei ddirymu ar 1 Medi 2022.
13. Caiff Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2014(17) ei ddirymu ar 1 Medi 2022.
14.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014(18) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar 1 Medi 2022—
(a)yn rheoliad 2(1)—
(i)yn lle’r diffiniad o “blaenoriaethau cenedlaethol” rhodder y canlynol—
“ystyr “blaenoriaethau cenedlaethol” (“national priorities”) yw—
gwella cynnydd disgyblion drwy sicrhau bod eu dysgu wedi ei gefnogi gan ystod o wybodaeth, sgiliau a phrofiad;
lleihau effaith tlodi ar gynnydd a chyrhaeddiad disgyblion;”,
(ii)hepgorer y diffiniad o “canlyniadau cyrhaeddiad”, a
(iii)hepgorer y diffiniad o “gwybodaeth ysgol gymharol”; a
(b)hepgorer rheoliad 8.
15.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018(19) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar 1 Medi 2022, hepgorer rheoliad 10(a).
O.S. 2008/1409 (Cy. 146). Mae diwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
O.S. 2009/3256 (Cy. 284) a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy. 101), O.S. 2010/2431 (Cy. 209), O.S. 2014/42 (Cy. 4) ac O.S. 2016/236 (Cy. 88).
O.S. 2011/1939 (Cy. 207) a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/437 (Cy. 53). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
Rhif ISBN: 978-1-80391-326-1.
O.S. 2012/724 (Cy. 96). Mae diwygiadau i baragraff 1 o Atodlen 2 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.
O.S. 2014/1996 (Cy. 198) a ddiwygiwyd gan O.S. 2015/1596 (Cy. 195).
O.S. 2014/2677 (Cy. 265) a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/236 (Cy. 88) ac O.S. 2018/766 (Cy. 153).
O.S. 2018/766 (Cy. 153). Mae diwygiad nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: