RHAN 2Diwygiadau Canlyniadol

Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 201210.

(1)

Mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 201216 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2)

Ar 1 Medi 2022—

(a)

mae rheoliad 3 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(i)

yn y lleoedd priodol mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

“ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;”,

“ystyr “blwyddyn meithrin” (“nursery year”) yw’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn y dosbarth yn cyrraedd 4 oed ynddi;”,

“ystyr “Cwricwlwm i Gymru” (“Curriculum for Wales”) yw’r cwricwlwm a fabwysiedir neu a ddarperir o dan Ran 2 neu 3 o Ddeddf 2021;”,

“ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 202117;”, a

(b)

yn lle paragraff 1(c)(i) o Atodlen 2 rhodder—

“(i)

yn gyfan gwbl neu’n bennaf mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) yng Nghymru—

(aa)

y mae, neu yr oedd, Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru yn cael ei addysgu ynddi neu ynddo mewn perthynas â’r cyfnod sylfaen, neu’r ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol neu’r pedwerydd cyfnod allweddol, fel y bo’n briodol i’r ysgol neu’r sefydliad,

(bb)

pan fo’r Cwricwlwm i Gymru yn cael ei addysgu mewn perthynas â’r flwyddyn meithrin hyd at flwyddyn 11, neu

(cc)

pan fo’r cyfnod o hyfforddiant yr ymgymerwyd ag ef gan y person wedi cynnwys addysgu o dan Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru ac o dan y Cwricwlwm i Gymru);”.