xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CEnwi, cychwyn a chymhwyso

Enwi a chychwynLL+C

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Gwladolion Wcreinaidd ac Aelodau o’u Teuluoedd) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

2.  Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Gorffennaf 2022.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

CymhwysoLL+C

3.  Mae’r Rheoliadau hyn y gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2022, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2