xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5LL+CDiwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

CyflwyniadLL+C

18.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(1) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 18 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i reoliad 2LL+C

19.  Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”) yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—

(a)

o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu

(b)

y tu allan i’r rheolau mewnfudo—

(i)

pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a

(ii)

pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022;.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 19 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i reoliad 4LL+C

20.  Yn rheoliad 4—

(a)ym mharagraff (2)(a), ar ôl “4ZB,” mewnosoder “4ZC,”;

(b)ar ôl paragraff (10E) mewnosoder—

(10F) Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir—

(i)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs presennol; neu

(ii)yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir wedi terfynu, ac nad oes unrhyw hawl bellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei rhoi,

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 20 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i reoliad 15LL+C

21.  Yn rheoliad 15, ar ôl paragraff (bb) mewnosoder—

(bc)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 21 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i reoliad 23LL+C

22.  Yn rheoliad 23—

(a)ym mharagraff (12), ar ôl is-baragraff (bb) mewnosoder—

(bc)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;;

(b)hepgorer paragraff (17).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 22 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i reoliad 26LL+C

23.  Yn rheoliad 26(1), ar ôl “ar gwrs dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 23 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i reoliad 27LL+C

24.  Yn rheoliad 27(1), ar ôl “ar gwrs dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 24 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i reoliad 28LL+C

25.  Yn rheoliad 28(1), ar ôl “ar gwrs dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 25 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i reoliad 49LL+C

26.  Yn rheoliad 49(2), ar ôl is-baragraff (bb) mewnosoder—

(bc)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 26 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i reoliadau 81 a 82LL+C

27.  Yn rheoliad 81—

(a)ym mharagraff (2)(a), ar ôl “4ZB,” mewnosoder “4ZC,”;

(b)ar ôl paragraff (10E) mewnosoder—

(10F) Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei rhoi,

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 27 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

28.  Yn rheoliad 82(4), ar ôl is-baragraff (bb) mewnosoder—LL+C

(bc)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 28 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i reoliad 91LL+C

29.  Yn rheoliad 91(1), ar ôl “ar gwrs rhan-amser dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 29 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i reoliad 92LL+C

30.  Yn rheoliad 92(1), ar ôl “ar gwrs rhan-amser dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 30 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i reoliad 93LL+C

31.  Yn rheoliad 93(1), ar ôl “ar gwrs rhan-amser dynodedig” mewnosoder “neu mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig y mae’n ymgymryd ag ef”.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 31 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i reoliadau 110 a 111LL+C

32.  Yn rheoliad 110—

(a)ym mharagraff (3)(a)(i), ar ôl “4ZB,” mewnosoder “4ZC,”;

(b)ar ôl paragraff (12E) mewnosoder—

(12F) Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-radd cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei rhoi,

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 32 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

33.  Ar ôl rheoliad 111(2)(bb) mewnosoder—

(bc)y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 33 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i Atodlen 1LL+C

34.  Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4ZB mewnosoder—

Gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir

4ZC.  Person—

(a)sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir; ac

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 34 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2

Diwygiad i Atodlen 4LL+C

35.  Yn Atodlen 4, paragraff 6, ar ôl is-baragraff (ab) mewnosoder—

(ac)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 35 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2