xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
36. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(1) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 36 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
37. Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “2ZB,” mewnosoder “2ZC,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 37 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
38. Yn rheoliad 12(1), yn lle “23E neu 23F” rhodder “23E, 23F neu 23G”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 38 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
39. Ar ôl rheoliad 23F mewnosoder—
“23G.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr cymwys oherwydd ei fod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZC) mewn cysylltiad â chais am gymorth—
(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs presennol,
(ii)ar gyfer cwrs llawnamser y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben llawnamser mewn perthynas ag ef, neu
(iii)ar gyfer cwrs y mae statws P fel myfyriwr cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs presennol o dan reoliad 28 neu baragraff 7 o Atodlen 5, a
(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 39 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
40. Yn rheoliad 69, ym mharagraff (2), hepgorer Eithriad 5.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 40 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
41. Yn rheoliad 80—
(a)ym mharagraff (2)(b), ar ôl paragraff (ic) mewnosoder—
“(id)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”;
(b)ym mharagraff (3), yn y lle priodol mewnosoder ““gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”);”.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 41 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
42. Yn rheoliad 81(3)(b), ar ôl paragraff (ic) mewnosoder—
“(id)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 42 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
43. Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 2ZB mewnosoder—
2ZC.—(1) Person—
(a)sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,
(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
(a)o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
(b)y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
(i)pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
(ii)pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022.”
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 43 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
44. Yn Atodlen 4—
(a)ym mharagraff 4(1)(a)(i), ar ôl “2ZB,” mewnosoder “2ZC,”;
(b)ar ôl paragraff 13F mewnosoder—
“13G.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)pan oedd person (“P”) yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys oherwydd ei fod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir (gweler Atodlen 2, paragraff 2ZC) mewn cysylltiad â chais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl—
(i)ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol, neu
(ii)mewn cysylltiad â chwrs y mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi cael ei drosglwyddo ohono i’r cwrs ôl-radd presennol o dan baragraff 15, a
(b)pan, ar ddiwedd y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am grant myfyriwr ôl-raddedig anabl mewn cysylltiad â hi, fo’r cyfnod y caiff P aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad yw caniatâd pellach i aros wedi cael ei roi.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae statws P fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae P yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”;
(c)ym mharagraff 14—
(i)yn is-baragraff (3)(b), ar ôl paragraff (ic) mewnosoder—
“(id)bod y myfyriwr yn dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir;”;
(ii)yn is-baragraff (4), yn y lle priodol mewnosoder ““gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” (“protected Ukrainian national”);”.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 44 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2
45. Yn Atodlen 7, yn Nhabl 16, yn y lle priodol mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—
““gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” | Atodlen 2, paragraff 2ZC(2)” |
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 45 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2