Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Gwladolion Wcreinaidd ac Aelodau o’u Teuluoedd) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022

Diwygiad i reoliadau 110 a 111LL+C

32.  Yn rheoliad 110—

(a)ym mharagraff (3)(a)(i), ar ôl “4ZB,” mewnosoder “4ZC,”;

(b)ar ôl paragraff (12E) mewnosoder—

(12F) Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-radd cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i A aros yn y Deyrnas Unedig fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei rhoi,

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 32 mewn grym ar 24.7.2022, gweler rhl. 2