RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
Diwygiad i Atodlen 2I143
Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 2ZB mewnosoder—
Categori 2ZC – Gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir2ZC
1
Person—
a
sy’n wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir,
b
sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers dod yn wladolyn Wcreinaidd a ddiogelir, ac
c
sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
2
Yn y paragraff hwn, ystyr “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” yw person y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi—
a
o dan baragraff 9.1 (y Cynllun Teuluoedd o Wcráin), 19.1 (y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin) neu 27.1 (y Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin) o Atodiad Cynllun Wcráin i’r rheolau mewnfudo; neu
b
y tu allan i’r rheolau mewnfudo—
i
pan oedd y person yn preswylio yn Wcráin yn union cyn 1 Ionawr 2022; a
ii
pan adawodd y person Wcráin mewn cysylltiad â’r ymosodiad gan Rwsia a ddigwyddodd ar 24 Chwefror 2022.