2022 Rhif 767 (Cy. 167)

Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Arolygwyr Cymeradwy) (Cymru) 2022

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 167(1) a (2) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 20221, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Arolygwyr Cymeradwy) (Cymru) 2022.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Gorffennaf 2022.

Diwygio Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 20102

1

Mae Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 20102 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Hepgorer rheoliad 5A (yswiriant arolygydd cymeradwy)3.

3

Yn rheoliad 7 (rhestrau o gymeradwyaethau a dynodiadau)4

a

yn lle paragraff (1)(c) rhodder—

c

in relation to Wales, in respect of each approved inspector listed, keep a copy of the approval certificate.

b

yn lle paragraff (3)(b) rhodder—

b

in relation to Wales, in respect of each approved inspector listed, keep a copy of the approval certificate;

4

Yn rheoliad 9 (annibyniaeth arolygwyr cymeradwy) yn lle paragraff (4)(c) rhodder—

c

in relation to Wales, potential liability to pay any sum if a claim is made under any insurance cover,

5

Yn Atodlen 15 (ffurflenni)—

a

Yn Ffurflen 1 (hysbysiad cychwynnol) yn lle paragraff 13 rhodder—

13

A copy of the notice of approval as an approved inspector under regulation 5 of the 2010 Regulations in relation to the work described in this initial notice is on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.

b

Yn Ffurflen 2 (hysbysiad diwygio) yn lle paragraff 13 rhodder—

13

A copy of the notice of approval as an approved inspector under regulation 5 of the 2010 Regulations in relation to the work described in the initial notice (as varied by this amendment notice) is on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.

c

Yn Ffurflen 3 (tystysgrif planiau) yn lle paragraff 3 rhodder—

3

A copy of the notice of approval as an approved inspector under regulation 5 of the 2010 Regulations in relation to the work described in this plans certificate is on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.

d

Yn Ffurflen 4 (hysbysiad cychwynnol a thystysgrif planiau cyfunol) yn lle paragraff 17 rhodder—

17

A copy of the notice of approval as an approved inspector under regulation 5 of the 2010 Regulations in relation to the work described in this initial notice is on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.

e

Yn Ffurflen 5 (tystysgrif derfynol) yn lle paragraff 6 rhodder—

6

A copy of the notice of approval as an approved inspector under regulation 5 of the 2010 Regulations in relation to the work described in this final certificate is on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.

6

Yn Atodlen 2 (y seiliau dros wrthod hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio, neu dystysgrif planiau wedi ei chyfuno â hysbysiad cychwynnol) hepgorer paragraff 66.

7

Yn Atodlen 3 (y seiliau dros wrthod tystysgrif planiau etc.) hepgorer paragraff 6.

8

Yn Atodlen 4 (y seiliau dros wrthod tystysgrif derfynol) hepgorer paragraff 5.

Julie JamesY Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (“y Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy”). Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ganlyniadol ar adran 48 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022. Mae’r adran honno yn gwneud diddymiadau i Ddeddf Adeiladu 1984 mewn cysylltiad â gofynion yswiriant arolygwyr cymeradwy.

Mae rheoliad 2(2) yn hepgor rheoliad 5A (yswiriant arolygydd cymeradwy) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy, gan ddileu’r gofyniad i ddatganiad o yswiriant fod ym meddiant y person a gymeradwyodd yr arolygydd. Mae rheoliad 2(3) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 7 ac mae rheoliad 2(4) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 9. Mae rheoliad 2(5) yn diwygio’r ffurflenni yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy fel nad yw’r ffurflenni yn cyfeirio mwyach at y datganiad o yswiriant. Mae rheoliad 2(6) hyd at (8) yn diwygio Atodlenni 2, 3 a 4 i’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy er mwyn dileu o bob un o’r Atodlenni hyn y sail dros wrthod sy’n ymwneud â’r datganiad o yswiriant.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.