Amrywio rhent yn sgil penderfyniad gan bwyllgor asesu rhenti5

Rhent a bennir gan bwyllgor asesu rhenti, yn unol â’r rhagdybiaethau a nodir yn rheoliad 6, fydd y rhent ar gyfer yr annedd o dan y contract wedi ei drosi perthnasol gydag effaith o’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, oni bai bod y landlord a’r deiliad contract perthnasol yn cytuno fel arall.