- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022, Adran 6.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
6. Wrth bennu rhent ar gyfer annedd o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i bwyllgor asesu rhenti bennu’r rhent y mae’n ystyried y gallai fod disgwyl i’r annedd dan sylw [F1gael ei gosod] amdano ar y farchnad agored gan landlord parod o dan [F2gontract meddiannaeth o’r un math â’r contract wedi ei drosi perthnasol] y mae’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf yn [F3ymwneud ag ef], gan ragdybio—
(a)bod y contract [F4meddiannaeth] yn dechrau ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf,
(b)nad yw rhoi contract i ddeiliad contract cyfredol yn cael dim effaith ar y rhent,
(c)nad yw unrhyw gynnydd yng ngwerth yr annedd y gellir ei briodoli i welliant perthnasol a wnaed gan berson a oedd y [F5tenant neu’r trwyddedai,] neu’r deiliad contract perthnasol ar yr adeg y’i gwnaed yn cael dim effaith ar y rhent, os gwnaed y gwelliant—
(i)ac eithrio yn unol â rhwymedigaeth i’r landlord uniongyrchol, neu
(ii)yn unol â rhwymedigaeth i’r landlord uniongyrchol nad yw’n rhwymedigaeth a oedd yn ymwneud â’r gwelliant penodol o dan sylw ond a gododd drwy gyfeirio at gydsyniad a roddwyd i wneud y gwelliant hwnnw,
(d)nad yw unrhyw ostyngiad yng ngwerth yr annedd y gellir ei briodoli i fethiant gan y F6... deiliad contract perthnasol i gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o delerau’r F7... contract wedi ei drosi perthnasol [F8neu’r denantiaeth neu’r drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig] yn cael dim effaith ar y rhent,
(e)pan fo’r landlord neu uwchlandlord yn atebol i dalu’r dreth gyngor mewn cysylltiad â hereditament y mae’r annedd yn rhan ohono, o dan Ran 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fod swm y dreth gyngor a bennwyd gan yr awdurdod bilio, fel ar y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123—
(i)ar gyfer y flwyddyn ariannol y cyflwynwyd yr hysbysiad ynddi, a
(ii)ar gyfer y categori o anheddau yr oedd yr hereditament perthnasol yn perthyn iddo ar y dyddiad hwnnw,
yn cael effaith ar y rhent, ond nad yw unrhyw ddisgownt neu ostyngiad arall sy’n effeithio ar swm y dreth gyngor sy’n daladwy yn cael dim effaith ar y rhent, ac
(f)nad yw’r landlord nac uwchlandlord yn talu ardrethi mewn cysylltiad â’r annedd.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 6 wedi eu hamnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(3)(a)(i)
F2Geiriau yn rhl. 6 wedi eu hamnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(3)(b)
F3Geiriau yn rhl. 6 wedi eu hamnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(3)(a)(ii)
F4Gair yn rhl. 6(a) wedi ei amnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(3)(c)
F5Geiriau yn rhl. 6(c) wedi eu hamnewid (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(3)(d)
F6Geiriau yn rhl. 6(d) wedi eu hepgor (30.11.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(3)(e)(i)
F7Geiriau yn rhl. 6(d) wedi eu hepgor (30.11.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(3)(e)(ii)
F8Geiriau yn rhl. 6(d) wedi eu mewnosod (30.11.2022) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1078), rhlau. 1, 3(3)(e)(iii)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 6 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1 (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 13
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: