RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

PENNOD 3Diwygiadau sy’n ymwneud â chymorth ariannol

Diwygiadau i reoliad 55 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser)

42.  Yn rheoliad 55, mae Tabl 7 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;

(b)ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022Categori 1Byw gartref£8,095
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£12,375
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£9,710
Categori 2Byw gartref£4,045
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£6,185
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,855

Diwygiadau i reoliad 56 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr llawnamser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig)

43.  Yn rheoliad 56—

(a)mae Tabl 8 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;

(ii)ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022Byw gartref£9,095
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£13,375
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£10,710

(b)mae Tabl 8A wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;

(ii)ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022Byw gartref£4,045
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£6,185
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£4,855

Diwygiadau i reoliad 57 (benthyciad cynhaliaeth wedi ei gynyddu ar gyfer myfyrwyr llawnamser yn ystod blynyddoedd estynedig)

44.  Yn rheoliad 57, mae Tabl 9 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;

(b)ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022Byw gartref£91
Byw oddi cartref, astudio yn Llundain£176
Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall£138

Diwygiadau i reoliad 58 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser)

45.  Yn rheoliad 58, mae Tabl 10 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;

(b)ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022£6,905 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

Diwygiadau i reoliad 58A (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig)

46.  Yn rheoliad 58A, mae Tabl 10A wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;

(b)ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022£7,905 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio

Diwygiad i reoliad 63 (swm y grant myfyriwr anabl)

47.  Yn rheoliad 63(2), yn Achos 1, yn lle “£31,831” rhodded “£32,546”.

Diwygiad i reoliad 72 (uchafswm y grant oedolion dibynnol)

48.  Yn rheoliad 72, mae Tabl 11 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;

(b)ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022£3,262

Diwygiadau i reoliad 74 (uchafswm y grant dysgu ar gyfer rhieni)

49.  Yn rheoliad 74, mae Tabl 12 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;

(b)ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022£1,862

Diwygiadau i reoliad 76 (uchafswm y grant gofal plant

50.  Yn rheoliad 76—

(a)mae Tabl 13 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(i)yng ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2022”;

(ii)ar ddiwedd y Tabl ychwaneger y cofnod a ganlyn—

Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2022Un plentyn dibynnol£184
Mwy nag un plentyn dibynnol£315

(b)ym mharagraff (4), yn lle “£138.31” rhodder “£141”.

Diwygiad i Atodlen 4 (grant myfyriwr ôl-raddedig anabl)

51.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 20(2), yn Achos 1, yn lle “£31,831” rhodder “£32,546”.