xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018

PENNOD 4Diwygiad i’r diffiniad o “blwyddyn Erasmus”

Diwygiad i Atodlen 1 (dehongli)

52.  Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4, yn lle is-baragraff (3) rhodder—

(3) Yn is-baragraff (1), ystyr “cynllun ERASMUS” yw—

(a)cynllun gweithredu’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol,

(b)y cynllun a sefydlir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a elwir Cynllun Turing, neu

(c)y cynllun a sefydlir gan Weinidogion Cymru a elwir y Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu.