RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
PENNOD 6Grant Myfyriwr Ôl-raddedig Anabl – diwygiadau sy’n ymwneud â gwaith gofal cymdeithasol
58.
Yn Atodlen 4, ym mharagraff 5(1), yn Eithriad 2, ar ôl “Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016” mewnosoder “pan fo’r cwrs ôl-raddedig dynodedig yn dechrau cyn 1 Awst 2022”.