37.—(1) Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael ei dalu mewn cysylltiad â phob diwrnod o wyliau blynyddol y mae’n ei gymryd.
(2) Mae swm y tâl gwyliau y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael o dan baragraff (1) i’w bennu drwy rannu cyflog wythnosol y gweithiwr amaethyddol fel y’i pennir yn unol â pharagraff (3) neu, yn ôl y digwydd, paragraff (4), â nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol hwnnw.
(3) Pan nad yw oriau gwaith arferol y gweithiwr amaethyddol o dan naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth yn amrywio (yn ddarostyngedig i baragraff (4)), swm cyflog wythnosol y gweithiwr amaethyddol at ddibenion paragraff (2) yw tâl wythnosol arferol y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy gan y cyflogwr.
(4) Pan fo oriau gwaith arferol y gweithiwr amaethyddol yn amrywio o wythnos i wythnos, neu pan fo gweithiwr amaethyddol sydd ag oriau gwaith arferol (fel ym mharagraff (3)) yn gweithio goramser yn ogystal â’r oriau hynny, cyfrifir swm tâl wythnosol arferol y gweithiwr amaethyddol at ddibenion paragraff (2) drwy adio swm tâl wythnosol arferol y gweithiwr amaethyddol ym mhob un o’r 52 o wythnosau yn union cyn cychwyn gwyliau blynyddol y gweithiwr a rhannu’r cyfanswm â 52.
(5) At ddibenion yr erthygl hon ystyr “tâl wythnosol arferol” yw—
(a)tâl sylfaenol y gweithiwr amaethyddol o dan ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth; a
(b)unrhyw dâl goramser ac unrhyw lwfans a delir yn gyson i’r gweithiwr amaethyddol.
(6) Pan fo gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan ei gyflogwr am lai na 52 o wythnosau, rhaid ystyried wythnosau pan oedd tâl yn ddyledus i’r gweithiwr amaethyddol yn unig.
(7) At ddibenion paragraff (2), mae nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd yn cael ei bennu yn unol â’r darpariaethau yn erthyglau 33 a 34 o’r Gorchymyn hwn.
(8) Rhaid i unrhyw dâl sy’n ddyledus i weithiwr amaethyddol o dan yr erthygl hon gael ei dalu heb fod yn hwyrach na diwrnod gwaith olaf y gweithiwr amaethyddol cyn i’r cyfnod o wyliau blynyddol y mae’r taliad yn ymwneud ag ef gychwyn.