Diwygio Atodlen 12I112

Ym mharagraff 15—

a

yn is-baragraff (1) ar ôl “gontract wedi ei drosi” mewnosoder “(heblaw contract a grybwyllir ym mharagraff 13B)”;

b

yn lle is-baragraff (3) rhodder—

3

Mae contract wedi ei drosi yn gontract wedi ei drosi perthnasol—

a

os oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded yr oedd adran 13 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (codiadau rhent o dan denantiaethau cyfnodol sicr) yn gymwys iddi,

b

os yw’n gontract safonol cyfnodol sy’n cymryd lle contract arall (gweler paragraff 32)—

i

sy’n codi o dan adran 184(2), neu

ii

sydd o fewn adran 184(6),

a oedd yn union cyn y diwrnod penodedig yn denantiaeth sicr, ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr, am gyfnod penodol, neu

c

os yw’n gontract sicr a oedd yn union cyn y diwrnod penodedig yn denantiaeth sicr, ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr, am gyfnod penodol.