12. Ym mharagraff 15—
(a)yn is-baragraff (1) ar ôl “gontract wedi ei drosi” mewnosoder “(heblaw contract a grybwyllir ym mharagraff 13B)”;
(b)yn lle is-baragraff (3) rhodder—
“(3) Mae contract wedi ei drosi yn gontract wedi ei drosi perthnasol—
(a)os oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth neu’n drwydded yr oedd adran 13 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (codiadau rhent o dan denantiaethau cyfnodol sicr) yn gymwys iddi,
(b)os yw’n gontract safonol cyfnodol sy’n cymryd lle contract arall (gweler paragraff 32)—
(i)sy’n codi o dan adran 184(2), neu
(ii)sydd o fewn adran 184(6),
a oedd yn union cyn y diwrnod penodedig yn denantiaeth sicr, ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr, am gyfnod penodol, neu
(c)os yw’n gontract sicr a oedd yn union cyn y diwrnod penodedig yn denantiaeth sicr, ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr, am gyfnod penodol.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 12 mewn grym ar 14.7.2022, gweler rhl. 1(2)