Diwygio Atodlen 12
14. Ar ôl paragraff 24 mewnosoder—
“Contract safonol â chymorth a oedd yn denantiaeth fyrddaliol sicr
24A. Mae’r Ddeddf hon yn gymwys i gontract wedi ei drosi—
(a)a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth fyrddaliol sicr, a
(b)a gafodd effaith ar ôl trosi fel contract safonol â chymorth,
fel pe bai adrannau 144 (symudedd) a 145 (gwahardd dros dro) wedi eu hepgor.”